“Mae’n fater i’r Prif Weinidog nawr i adlewyrchu ar y farn y Senedd nad oes hyder ynddo.“
Dyma ymateb Elin Jones, Llywydd y Senedd, yn gofyn i Aelodau barchu ei gilydd ar ôl un o bleidleisiau mwyaf hanesyddol y sefydliad ers 1999.
Roedd y profiad o gael bod yn oriel y Senedd ddydd Mercher (Mehefin 5) yn un anesmwyth o ran y bleidlais oedd yn hanesyddol yng nghyd-destun gwleidyddiaeth yng Nghymru. Mae’n rhaid mynd 24 mlynedd ar gyfer y bleidlais diffyg hyder ddiwethaf yn erbyn Prif Weinidog, neu Ysgrifennydd Cyntaf y Cynulliad fel oedd o bryd hynny, sef Alun Michael.
Fel rhywun oedd yn yr oriel, lle mae hi ond yn bosib i chi a thri pherson arall fod fel arfer, roedd y ffaith fod y lle’n orlawn yn edrych lawr ar yr arena wleidyddol yma – lle’r oedd gwleidyddion o bob plaid yn datgan pam eu bod am bleidleisio naill ffordd neu llall – yn rywbeth Socretiaidd ei natur.
Roedd rhan fwya’r dorf yno i gefnogi Vaughan Gething, rhywun sydd wedi bod yn destun craffu ers iddo gael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth. Roedd y neges yn glir, mai helfa yn erbyn Prif Weinidog dieuog oedd hwn, wedi’i gymell gan hiliaeth yn erbyn yr arweinydd Du cyntaf yng ngwledydd y Gorllewin.
Dywedodd Vaughan Gething yn y Gymraeg fod “ffordd bell i fynd ar y siwrne” tuag at gymdeithas heb hiliaeth. A dyna oedd y teimlad ymysg ei gefnogwyr hefyd, sef nad oedd yr hyn sydd wedi cael ei godi yn y wasg ddim yn deg tuag at y Prif Weinidog.
“Ond yn amlwg ar lefel bersonol, mae rhywun yn cydymdeimlo, ond hefyd yn rhwystredig wedyn fod yna ddim dealltwriaeth pam fod pobol yn flin,” meddai Heledd Fychan wrth golwg360 yn syth ar ôl y bleidlais. Dyma’r teimlad dwi’n ei gael o fewn ‘swigen’ y Senedd gan bobol sydd yn meddwl bod mater rhoddion o £200,000 i’w ymgyrch i ddod yn Brif Weinidog yn llawer mwy na gimic gwleidyddol.
Mae pobol gyffredin, ac Aelodau’r Senedd, eisiau gweld bod y Prif Weinidog yn deall difrifoldeb y sefyllfa, sydd ddim wir wedi cael ei ddangos hyd yn hyn. Fel y dywedodd ffynhonnell o fewn y Blaid Lafur wrth golwg360, “does yna ddim croeso i farn allanol, sydd yn hollol gyson efo’r feirniadaeth ohono fe”.
Dywedodd yr un ffynhonnell nad oes gan Vaughan Gething “ddim strategaeth wleidyddol”, sydd efallai wedi cael ei brofi gan y penderfyniad i dderbyn yr arian yn y lle cyntaf.
Cafodd Mark Drakeford yr un cyhuddiad, sef ei fod yn rhywun oedd ddim yn croesawu’r craffu sydd yn dod efo swydd fwya’r wlad. Ond yn ei gyd-destun o, polisi oedd o dan sylw, nid materion ynglŷn â chrebwyll.
Rydym wedi clywed am y tro cyntaf ers y bleidlais fod Aelodau Llafur o’r Senedd yn cyfaddef na all y sefyllfa barhau fel ag y mae hi. Y cwestiwn nawr ydi am ba hyd fydd y Blaid Lafur ganolog a Syr Keir Stamer yn parhau i gefnogi Vaughan Gething yn gyhoeddus.
Yn weledol, o leiaf, mae Starmer yn parhau i gefnogi Gething, gyda Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Aberafan, yn siarad o blaid y Prif Weinidog ar y BBC. Mae Liz Kendall o’r cabinet cysgodol hefyd am ymweld â Sir Fynwy efo Gething fory (dydd Sadwrn, Mehefin 8). Ond y neges gan nifer o fewn y Senedd ydi bod rhaid derbyn difrifoldeb y sefyllfa fel cam cyntaf tuag at ddatrysiad.