Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyfaddef wrth golwg360 ei bod hi’n “poeni” ar un adeg am styntiau gwleidyddol Syr Ed Davey, arweinydd y blaid Brydeinig.

Ond bellach, mae hi’n dweud eu bod nhw wedi cael sylw’r wasg, sy’n golygu bod y blaid “wedi bod yn rhan o’r ddadl” ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Wrth siarad â golwg360 lai na mis cyn yr etholiad, bu Jane Dodds yn rhannu ei gobeithion a’i meddyliau.

“Mae’n rhaid i ni fod yn fwy clyfar yn y ffordd rydym yn rhedeg ymgyrch etholiad,” meddai.

“Mae gennym ni lai o arian a llai o bobol na phleidiau eraill yma yng Nghymru.

“Y flaenoriaeth ydy cael y Ceidwadwyr allan.

“Mi fydd o’n wych cael gwlad sydd heb un Aelod Seneddol San Steffan sydd yn Geidwadol.”

Targedu seddi

Dywed Jane Dodds fod ganddi darged glir o ran nifer y seddi yr hoffai hi weld ei phlaid yn eu hennill.

“Rydan ni’n targedu seddi fel Sir Drefaldwyn a Glyndŵr,” meddai wedyn.

“Dw i, yn bersonol, wedi bod o gwmpas Cymru i’r seddi newydd, fel yng Ngheredigion.

“Os bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill dwy sedd yng Nghymru, mi fydda i’n hapus tu hwnt.

“Mae o’n hynod o bwysig i ni gael cynrychiolaeth Ryddfrydol yn San Steffan, oherwydd mi fydd etholwyr yn gwybod y bydd ganddyn nhw wleidydd sydd wir yn cynrychioli’r etholaeth, a ddim jest yn pleidleisio efo’r blaid bob tro.”

Cynnig gwahanol i’r pleidiau eraill

Ond beth fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gynnig i Gymru’n wahanol i Lafur a’r Ceidwadwyr?

“Mae’n bwysig i ni ganolbwyntio ar ddeddfwriaeth sydd ddim wedi cael ei datganoli ac yn cael ei phenderfynu yn Llundain yn ystod yr ymgyrch,” meddai.

“Gweithio ar gyfer y cymunedau, mae hynny’n bwysig iawn. Ac rydym wedi bod yn gwneud hynny dros flynyddoedd.

“Rydan ni’n edrych ar lygredd dŵr.

“Oes yna allu i gael mwy o arian i mewn i Gymru ar gyfer ffermydd ac iechyd?

“Hefyd, sicrhau bod pobol sy’n gofalu mewn sefyllfa sydd yn fwy teg nag ar hyn o bryd.

“Dw i’n meddwl mai dyma sydd yn unigryw o ran lleisiau yn San Steffan.”

Styntiau gwleidyddol Ed Davey

Mae Syr Ed Davey wedi bod yn gwneud nifer o styntiau gwleidyddol ar ddechrau’r ymgyrch, a hynny er mwyn cael mwy o sylw ac amser ar yr awyr.

O syrthio i mewn i Lyn Windermere wrth dynnu sylw at lygredd dŵr, i fynd lawr llithren ddŵr wrth geisio codi ymwybyddiaeth o bolisïau iechyd meddwl.

“I fod yn onest, mi oeddwn i braidd yn poeni am y styntiau yma oedd Ed yn eu gwneud,” meddai Jane Dodds.

“Ond mae’n wir i ddweud, rydym wedi cael sylw’r wasg, sydd wedi gwneud yn siŵr ein bod yn rhan o’r ddadl.”

Mae Syr Ed Davey hefyd wedi bod yn y newyddion yn ystod yr ymgyrch am sôn yn emosiynol iawn am fod yn ofalwr i’w fam pan oedd yn ifanc, a bellach i’w blentyn sydd ag anableddau, ac mae’n disgrifio gofalu fel mater sydd yn “ofnadwy o bersonol”.

“Mae o’n rywun sydd efo ychydig bach o hwyl ynddo fo,” meddai Jane Dodds.

“Ond hefyd yn gallu sôn am bethau pwysig iawn i fywydau pobol, yn enwedig y sefyllfa am ofalu am bobol eraill.”

‘Mae hi ar ben ar Vaughan Gething’

Rhys Owen

“Dw i ddim yn meddwl ei fod o’n gallu goroesi, ond dw i hefyd byth wedi bod mewn sefyllfa fel yma,” medd Jane Dodds