Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud wrth golwg360 nad yw hi’n credu y gall Prif Weinidog Cymru oroesi’r bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.

Daw sylwadau Jane Dodds ar ôl i Vaughan Gething golli’r bleidlais, gafodd ei chynnig yn ei erbyn gan y Ceidwadwyr Cymreig, o 29 i 27.

Ers hynny, mae e wedi datgan ei fwriad i barhau yn y swydd, gan feio salwch am y ffaith nad oedd Lee Waters a Hannah Blythyn wedi gallu bod yn y Senedd i fwrw eu pleidlais.

Roedd y naill wedi beirniadu’r Prif Weinidog yn gyhoeddus, a’r llall wedi cael ei diswyddo ganddo yn dilyn honiadau ei bod hi wedi rhyddhau negeseuon WhatsApp yn ymwneud â Covid-19 i’r wasg.

Cynsail

Wrth siarad â golwg360, dywed Jane Dodds nad yw hi’n credu y gall Vaughan Gething oroesi’r her sydd o’i flaen yn dilyn y bleidlais ddoe (dydd Mercher, Mehefin 5).

“Ond dw i hefyd byth wedi bod mewn sefyllfa fel’ma,” meddai.

Yn wir, dim ond pedwar Aelod presennol o’r Senedd sydd wedi gweld Prif Weinidog, neu Brif Ysgrifennydd fel oedd y swydd ar y pryd, yng Nghymru yn derbyn pleidlais diffyg hyder.

Alun Michael oedd hwnnw, yn 2000.

“Ond dw i ddim yn meddwl fedrwn ni, fel Senedd, barhau fel hyn i ddweud y gwir,” meddai Jane Dodds.

Mae’r gwrthbleidiau, ac o leiaf un Aelod Llafur o’r Senedd, wedi ategu hynny.

“Mae’n broblem fawr i’r Blaid Lafur, oherwydd bo nhw ddim hyd yn oed wedi gallu cael eu haelodau nhw i gyd i bleidleisio ddoe.

“Dw i’n gobeithio y bydd pethau yn newydd er lles gwaith y Senedd a phobol Cymru, megis tlodi plant, creu mwy o swyddi ac yn y blaen.

“Yn enwedig y cwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau i Vaughan Gething, bob amser ers iddo gael ei ethol, dyna [rhoddion] mae Andrew RT Davies a Rhun ap Iorwerth wedi bod yn ei godi.

“Os mae o dal yna dydd Mawrth nesa’, dyna fydd yn digwydd eto.”

Cost tŷ yng Nghymru

Yn ôl Jane Dodds, mae rhyw helynt neu’i gilydd wedi bod yn codi bron bob wythnos i Vaughan Gething.

“Darganfod bod y dyn roddodd £200,000 hefyd yn gyfrifol am Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro, wedyn y negeseuon tecst ynglŷn ag ymchwiliad Covid, ac yn y blaen…” meddai.

“I fi, beth oedd mor frawychus am y sefyllfa oedd bod y cyfanswm mor enfawr, ac fel dywedais i yn fy araith, mae hynny’n gost o dŷ ar gyfartaledd yma yng Nghymru.

“Bysa fo wedi gallu talu’r arian yn ôl, a basen ni wedi parhau fel yr arfer, ond na.”

Sefyllfa anghyfforddus

Er ei bod hi’n beirniadu penderfyniadau Vaughan Gething i dderbyn yr arian, a’r ffaith ei bod hi’n ymddangos nad oes ganddo ddealltwriaeth ynghylch pam fod pobol yn flin, ynghyd â diffyg ymddiheuriad, dywed Jane Dodds ei bod hi’n cydymdeimlo â Phrif Weinidog Cymru ynghylch yr hyn ddigwyddodd yn y Siambr.

Ar ddechrau’r sesiwn, roedd e i’w weld yn emosiynol ac yn ddagreuol, a chafodd ei gysuro gan Jane Hutt, Trefnydd a Phrif Chwip Llafur.

“Mi oedd o’n anghyfforddus ac yn drist iawn,” meddai Jane Dodds wedyn.

“Oherwydd hynny, mi oedd hi’n anodd iawn i fi ddweud fy araith, yn esbonio fy rhesymeg am bleidleisio o blaid y ddeiseb.

“A bod yn onest, mi oeddwn i wedi synnu braidd gyda chyfraniadau aelodau’r Blaid Lafur.

“Y teimlad genna’i oedd bod y rhan fwyaf o bobol wedi dod i mewn i’r ddadl efo rhyw fath o barch.

“Dw i’n meddwl bod cael y gefnogaeth yna yn y galeri a phob dim ddaru ddod fyny yn y ddadl ddoe yn emosiynol iawn iddo fo.”