Mae ehangu ysgol Gymraeg yn Sir Fynwy gam yn nes, ar ôl i gynghorwyr gytuno i gyflwyno hysbysiadau ffurfiol i gynyddu ei chapasiti a’i symud “lan yr heol”.
Ar hyn o bryd, mae gan Ysgol Gymraeg y Fenni le i 317 o ddisgyblion, ond bydd hynny’n cynyddu i 420 pan fydd yr ysgol gynradd yn symud o’i safle presennol yn Heol Dewi Sant yn y Fenni i Ysgol Gynradd Deri View ym mis Medi 2025.
Bydd y safle newydd yn galluogi’r ysgol Gymraeg, sy’n derbyn 45 o ddisgyblion bob blwyddyn, i gael dau ddosbarth yn y flwyddyn.
Mae Deri View bellach yn rhan o ysgol tair i 19 oed King Henry, ond bydd yn dod yn wag pan fydd yr ysgol bwrpasol newydd, fydd yn gartref i bob disgybl, yn agor ym mis Ebrill 2025.
Roedd disgwyl i’r adeilad gwerth £70m agor ei ddrysau yn nhymor yr hydref sydd i ddod.
Ymgynghoriad ac ymrwymiad i’r Gymraeg
Roedd Cabinet Llafur Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno ym mis Ionawr i gynnal ymgynghoriad ar gynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni a’i symud i safle Deri View o fis Ebrill 2025, ac maen nhw bellach wedi nodi canlyniad yr ymgynghoriad, oedd yn gefnogol, ac wedi cytuno i gyhoeddi’r hysbysiadau cyfreithiol gofynnol.
Dywedodd Martyn Groucutt, Cynghorydd y Fenni Lansdown a’r Aelod Cabinet dros Addysg, ei fod yn swyddog addysg pan agorodd yr hen Gyngor Sir Gwent yr ysgol Gymraeg yn 1994.
“Yn y dyddiau pan oeddwn i’n rhan o dîm arweinwyr uwch Gwent, fe wnaethon ni agor Ysgol y Fenni gyda deuddeg o ddisgyblion ar y diwrnod cyntaf, ac rydyn ni bellach yn cynnig agor ysgol i 420 o ddisgyblion,” meddai, gan ddisgrifio’r ysgol fel llwyddiant gan bobol y Fenni ac ymrwymiad “pob plaid wleidyddol” yng Ngwent, a Sir Fynwy bellach, i’r Gymraeg.
Dywedodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i “chwarae rhan lawn yn ein hymrwymiad i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.
Dywedodd fod y symudiad “yn ei hanfod yn golygu symud lan yr heol i’r hyn dw i’n dal i feddwl amdani fel Babanod ac Iau Llwynu”, gan ychwanegu y byddai’n galluogi Ysgol y Fenni, sy’n gorfod defnyddio ystafelloedd dosbarth dros dro ar gyfer hyd at 137 o ddisgyblion, i “ehangu ac anadlu” gan ei bod “wedi’i gwasgu i’w safle presennol”.
Ychwanegodd fod yr ymgynghoriad wedi dangos bod gan y cynnig “gefnogaeth lawn” yr arolygwyr ysgolion Estyn a Gwasanaeth Cyflawni Addysg Gwent, sy’n cefnogi cynghorau’r ardal i gyflwyno addysg.
Ynghyd â darparu 420 o lefydd yn yr ysgol, bydd 60 lle rhan amser yn y dosbarth Meithrin.
Fe wnaeth yr ymgynghoriad ganfod fod rhieni aeth i gyfarfod yn gefnogol, ac o blith deunaw ymateb roedd deg ohonyn nhw (56%) yn llwyr gefnogol, a chwech arall (33%) yn gefnogol ond yn codi cwestiynau hefyd am agweddau eraill ar addysg Gymraeg.
Ymhlith y cwestiynau hynny roedd effaith bosib agor ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhrefynwy ym mis Medi, a bod rhaid i ddisgyblion deithio i Dorfaen neu i Gasnewydd i barhau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel uwchradd.
Cefnogol ar y cyfan
Daeth y Cyngor i’r casgliad fod 16 allan o ddeunaw o’r ymatebion (89%) gan y gymuned yn gefnogol.
Fe wnaethon nhw dderbyn dau ymateb nad oedden nhw’n gefnogol, gan honni nad yw addysg Gymraeg yn flaenoriaeth i drethdalwyr Sir Fynwy, a bod y cynlluniau’n “wastraff arian”.
Dywedodd y Cyngor fod nifer y dysgwyr Cymraeg yn cynyddu yn y sir.
Mae’r Cyngor wedi rhoi £1m tuag at gefnogi symud ac atgyweirio yn Deri View.
Bydd yr hysbysiadau statudol yn nodi cynlluniau’r Cyngor yn cael eu cyhoeddi ar Fehefin 17, am gyfnod o 28 diwrnod gan roi cyfle i unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylw tan Orffennaf 16 i wneud hynny.