Drannoeth eu cynnig o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, mae’n bosib fod gan y Ceidwadwyr Cymreig gwestiynau i’w hateb am “arian llygredig” rhoddwr arall, medd Llafur Cymru.

Mae’r Ceidwadwyr wedi derbyn rhodd o £5m gan Frank Hester, sydd wedi’i feirniadu am sylwadau hiliol am Diane Abbott, yr Aelod Seneddol Llafur, ar ôl dweud y “dylai hi gael ei saethu”.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw’r Ceidwadwyr Cymreig wedi derbyn cyfran o’r rhodd, ond os felly, mae Llafur Cymru’n galw arnyn nhw i ddychwelyd yr arian.

Daw hyn ar ôl i Vaughan Gething fod dan y lach am dderbyn £200,000 gan gwmni David Neal, troseddwr amgylcheddol.

‘Ymbellhau’

“Mae Andrew RT Davies, yr arweinydd Torïaidd yng Nghymru, eisoes wedi ymbellhau oddi wrth arian llygredig Frank Hester, gan ddweud ’na ddylai unrhyw un sy’n gwneud y sylwadau hynny fod yn agos at blaid wleidyddol na derbyn y rhoddion hynny’,” meddai Jessica Morden, cadeirydd ymgyrch seneddol Llafur Cymru.

“Bellach, mae £15m wedi’i roi i’r Ceidwadwyr gan ddyn sydd wedi gwneud sylwadau treisgar, gwreig-gasaol a hiliol.

“O ystyried ei sylwadau clir yn flaenorol, rhaid i Andrew RT Davies ateb y cwestiynau canlynol nawr.

“A oes cyfran o’r £15m yma wedi’i wario gan y Ceidwadwyr yng Nghymru?

“Os felly, ym mha etholaethau?

“Oddeutu £750,000 fyddai cyfran Cymru. Pryd fydd hwn yn cael ei ddychwelyd?”