Mae Russell Goodway, cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, yn galw ar Hannah Blythyn a Lee Waters i adael y Blaid Lafur.
Daw hyn ar ôl i’r ddau Aelod Llafur o’r Senedd gadw draw o’r Senedd ddoe (dydd Mercher, Mehefin 6), ar ddiwrnod y bleidlais hyder yn erbyn Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, oherwydd salwch.
Bu Russell Goodway yn gefnogwr mawr o Vaughan Gething ers cael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog ym mis Mawrth.
Wrth ymateb i neges ar X (Twitter gynt), lle’r oedd Hannah Blythyn a Lee Waters wedi’u disgrifio fel “gutless poltroons,” dywedodd Russell Goodway eu bod nhw’n “gywilyddus” ac y “dylen nhw fod allan o’r blaid o fewn yr awr”.
Diswyddo
Cafodd Hannah Blythyn, y cyn-Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol, ei diswyddo o’r Llywodraeth fis diwethaf.
Yn ôl adroddiadau, hi oedd yn gyfrifol am rannu llun â’r wasg oedd yn awgrymu bod Vaughan Gething yn dileu negeseuon oddi ar WhatsApp yn ystod cyfnod Covid-19 yn sgil ofnau eu bod nhw’n agored i gais rhyddid gwybodaeth.
Mae Hannah Blythyn wedi gwadu’r honiadau’n gyhoeddus.
Mae Lee Waters, y cyn-Ysgrifennydd Trafnidiaeth sydd bellach wedi gadael y Llywodraeth, wedi galw ar Vaughan Gething ar lawr y Senedd i gydnabod ei gamgymeriad wrth dderbyn y rhodd o £200,000 gan David Neal ac i ad-dalu’r arian.
Yn sgil y ffaith mai dyma’r ddau aelod oedd yn absennol i’r bleidlais ddoe, mae cwestiynau wedi codi ynghylch pam doedden nhw ddim wedi gallu bwrw eu pleidlais o bell.
“Rhaid iddo fo [Vaughan Gething] ddeall pam doedd dim cais am brocsi, oherwydd mae opsiwn os ydy rhywun yn sâl, mae’n bosib cael pleidleisio procsi nes i’r sesiwn lawn gychwyn am 1.30yp,” meddai Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wrth golwg360 yn dilyn y bleidlais.
“Gimic” Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr
Hefyd ar X, cyhuddodd Russell Goodway Blaid Cymru o “neidio i mewn i’r gwely” â’r Ceidwadwyr, a thrwy wneud hyn effeithio ar hygrededd y Senedd.
“Mae’r gimic gwleidyddol sydd wedi cael ei lwyfannu gan Blaid Cymru’n unsain â’r Torïaid wedi tanseilio hygrededd y Cynulliad yn llawn,” meddai, wrth gyfeirio at hen enw’r Senedd.
Pleidleisiodd Aelodau’r Senedd, gan gynnwys aelodau Llafur, dros newid enw’r Cynulliad i’r Senedd ym mis Mai 2020.