Fe fu llai o anafiadau ar ffyrdd Cymru ers cyflwyno’r terfyn cyflymder 20m.y.a, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daeth y terfyn i rym fis Medi y llynedd, ond fe fu’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ers y dechrau am ddileu’r polisi.

Ond yn ôl y data, sydd wedi’i ryddhau gan Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, fe fu 218 yn llai o anafiadau ers i’r terfyn ddod i rym – i lawr o 681 yn 2022 i 463 yn 2023.

Cyfanswm nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20m.y.a. a 30m.y.a. yn ystod chwarter ola’r flwyddyn oedd y ffigwr chwarterol isaf ar gofnod y tu allan i gyfnod pandemig Covid-19.

Yn gyffredinol yn 2023, cofnododd yr heddlu yng Nghymru gyfanswm o 3,262 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, sy’n ostyngiad o 1.6% o’i gymharu â 2022, a 24.7% yn is nag yn 2019 (cyn y pandemig).

‘Mae lle i wella o hyd’

Er bod Ken Skates yn croesawu’r gostyngiad mewn anafiadau fel “cam i’r cyfeiriad cywir”, dywed fod “lle i wella o hyd”.

“Mae’r data gafodd ei gyhoeddi heddiw yn dangos yn glir bod anafiadau ar ffyrdd 20m.y.a. a 30m.y.a. wedi lleihau ers cyflwyno 20mya – yr isaf erioed y tu allan i gyfnod pandemig Covid,” meddai.

“Mae lle i wella o hyd, ac rydym yn disgwyl i’r niferoedd amrywio dros y blynyddoedd nesaf wrth i yrwyr addasu i’r cyflymder newydd, ond mae’n galonogol gweld bod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir.

“Mae unrhyw leihad yn nifer y bobol sy’n cael eu hanafu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Prif amcan y polisi o’r dechrau’n deg oedd lleihau nifer yr anafiadau a helpu pobol i deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau ac mae data heddiw yn dangos ei bod hi’n bosibl cyflawni hyn.

“Ond, wrth i mi barhau i wrando ar sylwadau, rwy’n ymwybodol bod angen i ni fireinio’r polisi o hyd er mwyn sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir.

“Rwyf hefyd yn barod i gydnabod y gallai fod angen i rai ffyrdd ddychwelyd i 30m.y.a.

“Fel rhan o’n proses o dderbyn sylwadau, byddwn yn annog pobol i gysylltu â’u cyngor lleol i ddweud ble, yn eu barn nhw, y dylai’r 20m.y.a. gael ei dargedu.”

‘Angen mwy o ddata’

Wrth ymateb, dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod angen mwy o ddata ar y sefyllfa.

“Tra bod damweiniau’n gostwng i’w groesawu, all y Gweinidog [Ysgrifennydd] Trafnidiaeth ddim defnyddio’r ffigurau hyn er mwyn datgan bod terfyn cyflymder 20m.y.a. Llafur yn llwyddiant,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dw i wedi dweud ers amser hir nad yw 20m.y.a. yn gwneud synnwyr tu allan i ardaloedd sensitif megis ysgolion, ysbytai a llefydd addoli; dydy e ddim yn gwneud synnwyr ar briffyrdd lle nad yw pobol a thraffig yn cymysgu.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y bydden ni’n dileu terfyn cyflymder 20m.y.a. gwarthus Llafur ac yn ei gyflwyno mewn ardaloedd sensitif lle bo ei angen.”