Mae deiseb wedi’i sefydlu yn galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddo.
Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog Cymru golli pleidlais hyder yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Mehefin 6).
Cafodd y cynnig o ddiffyg hyder ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn sawl helynt, gan gynnwys derbyn rhodd o £200,000 i’w ymgyrch i arwain Llafur Cymru gan unigolyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a diswyddo’r gweinidog Hannah Blythyn yn dilyn honiadau ei bod hi wedi rhyddhau negeseuon yn ymwneud â Vaughan Gething yn ystod cyfnod Covid-19 i’r wasg.
Fe gollodd Brif Weinidog Cymru'r bleidlais hyder yn y Senedd ddoe ac mae deiseb newydd yn galw arno i ymddiswyddo
Ydych chi'n meddwl y dylai Vaughan Gething ymddiswyddo? 🤔
— Golwg360 (@Golwg360) June 6, 2024
Y ddeiseb
Yn ôl y ddeiseb, gafodd ei sefydlu gan Emyr Owen, “mae’n hen bryd i’r Prif Weinidog gael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd”.
Mae Vaughan Gething eisoes wedi dweud na fydd yn ymddiswyddo yn dilyn y canlniad, ond dywed y ddeiseb “na fydd y mater hwn yn mynd i ffwrdd hyd nes ei fod e’n gadael ei swydd” ac mae “cwestiynau ynghylch ei onestrwydd”.
“Po fwyaf y mae’n aros yn ei swydd, y mwyaf o niwed sy’n cael ei wneud i wleidyddiaeth Cymru ac ymddiriedaeth yn y Senedd,” medd awdur y ddeiseb.
“Os nad yw ein harweinwyr yn derbyn cyfrifoldeb, beth mae’n ei ddweud am Gymru ar lwyfan y byd?”
Dywed y ddeiseb fod yr honiadau ynghylch ymddygiad Vaughan Gething yn ystod cyfnod Covid-19 yn achos o dorri’r Cod Gweinidogol “ddylai arwain at ymddiswyddiad” gan iddo “gamarwain” yr ymchwiliad.
Ond mae’r ddeiseb yn feirniadol o’r modd mae e wedi “osgoi craffu”.
Mae hefyd yn galw am ymchwiliad i’r rhodd ariannol gan David Neal, pennaeth y cwmni amgylcheddol Dauson, ac etholiad cynnar yn y Senedd wrth i Vaughan Gething adael ei swydd.