Mae Vaughan Gething wedi colli pleidlais hyder yn y Senedd, ond yn ei ddagrau fe wrthododd e gamu o’r neilltu.

Collodd e’r bleidlais – nad oedd yn rhwymol – o 29 i 27, ar ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno’r cynnig heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5), ac yn sgil cefnogaeth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth ddatgan diffyg hyder ynddo.

Dywedodd Vaughan Gething yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 4) ei fod e’n hyderus y byddai’n ennill y bleidlais.

Dywedodd wrth y Senedd ei fod yn “difaru” y cynnig oedd “wedi’i ddylunio i gwestiynu” ei onestrwydd.

“Fel cynifer ohonoch chi yn y siambr hon, dw i wedi rhoi fy mywyd fel oedolyn i wasanaeth cyhoeddus ac i Gymru,” meddai.

“Hyd yn oed yng nghanol etholiad, mae’n brifo’n fawr iawn pan gaiff fy mwriad ei gwestiynu.”

Doedd dau aelod Llafur, Hannah Blythyn a Lee Waters, ddim yn y Senedd i bleidleisio oherwydd salwch – mae’r ddau wedi bod yn feirniadol o’r Prif Weinidog dros yr wythnosau diwethaf, a chafodd Hannah Blythyn ei diswyddo ganddo’n ddiweddar hefyd.

Doedd Jack Sargeant ddim yn y Senedd yn dilyn genedigaeth ei blentyn, ond roedd modd iddo fe bleidleisio o bell – yn wahanol i Waters a Blythyn.

Doedd Mark Drakeford, cyn-Brif Weinidog Cymru, ddim yn y Senedd ar gyfer y bleidlais, ond fe bleidleisiodd i gefnogi ei ragflaenydd.

Doedd dim modd i’r Llywydd Elin Jones na’i Dirprwy David Rees bleidleisio.

Emosiynol

Roedd y ddadl heddiw’n un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar y Senedd.

Roedd yr oriel bron yn llawn – rhywbeth prin iawn, gyda rhywbeth tebyg wedi digwydd ar gyfer y bleidlais ar y cynnig i alw am gadoediad yn Gaza ym mis Tachwedd.

Roedd nifer o gefnogwyr Vaughan Gething i’w clywed yn cymeradwyo ac yn bloeddio’u cefnogaeth wrth i’r ddadl fynd yn ei blaen.

Wrth agor y drafodaeth, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, nad oedd y cynnig o ddiffyg hyder yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, nac ychwaith y Grŵp Llafur na’r Blaid Lafur.

Yn hytrach, roedd yn ymwneud â’r modd roedd Vaughan Gething wedi ymddwyn yn ystod ei gyfnod byr yn Brif Weinidog, ac yn ystod yr ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru.

“Mae hyn yn ymwneud â’i benderfyniadau, ei drylowyder a’i onestrwydd,” meddai.

‘Diwrnod difrifol iawn yn hanes y Senedd’

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod Cymru ar y cyfan wedi bod yn ffodus o fod wedi osgoi sgandalau ariannol difrifol yn ystod 25 mlynedd cyntaf datganoli.

“Mae heddiw yn ddiwrnod difrifol iawn yn hanes y Senedd, am ein bod ni o’r farn fod y Prif Weinidog, nid yn unig wedi colli ein hyder ni, ond wedi colli hyder dinasyddion Cymru,” meddai.

Wrth ymateb, dywedodd Vaughan Gething ei fod yn “difaru” bod y bleidlais wedi’i chynnal heddiw.

“Fydda i ddim yn cuddio rhag craffu,” meddai.

“Dw i wedi sefydlu arolwg o sut fydd ymgyrchoedd yn cael eu hariannu yn y dyfodol.”

Siaradodd ychydig eiriau yn y Gymraeg dwywaith i ddweud bod “ffordd bell i fynd” ar siwrne cymdeithas Cymru, ac fe bwysleisiodd ei fod yn credu mewn “gwlad dros blaid” wrth anelu beirniadaeth tuag at Blaid Cymru am eu bod nhw’n pleidleisio efo’r Ceidwadwyr ar y cynnig.

Dywedodd Vikki Howells o’r Blaid Lafur fod cynnig y Ceidwadwyr yn “wleidyddiaeth ar ei gwaethaf” ac yn “gimic sinigaidd i dynnu sylw oddi ar Rishi Sunak a’i gyfeillion cyfoethog”

Wrth iddi wneud ei datganiad, roedd Vaughan Gething i’w weld yn ei ddagrau ac yn sychu ei lygaid, ac fe barhaodd yn drist ar ddechrau datganiad Heledd Fychan o Blaid Cymru hefyd.

“Mae’n siŵr, Brif Weinidog, eich bod yn deall pam fod pobol yn cwestiynu eich crebwyll,” meddai hithau.

“Dw i wir yn difaru ei fod o wedi dod i’r pwynt yma, ond does gen i ddim dewis ond pleidleisio yn erbyn y Prif Weinidog heddiw.”

Hiliaeth?

Dywedodd Hefin David, un o gefnogwyr Vaughan Gething yn y Blaid Lafur, fod yr ymosodiadau ar y Prif Weinidog yn ymwneud â hil.

Dywedodd ei bod hi’n amlwg fod gan bobol broblem â’r Prif Weinidog oherwydd ei “ethnigrwydd”.

Ymatebodd y Ceidwadwr Natasha Asghar, sydd o dras Bacistanaidd, i hyn yn ddiweddarach, gan gyhuddo’r Prif Weinidog a’i gefnogwyr o “chwarae’r cerdyn hil”.

Erbyn hynny, roedd cefnogwyr Vaughan Gething yn yr oriel yn amlwg wedi’u syfrdanu gan y sylw hwnnw.

Cymhariaeth ag Aneurin Bevan ac Alun Michael

Wrth ddyfynnu Michael Sheen, dywedodd Adam Price o Blaid Cymru fod yr actor, sy’n chwarae’r gwleidydd Aneurin Bevan yn y cynhyrchiad Nye, wedi ei ddisgrifio fel rhywun oedd yn “haearnaidd”, ond fe aeth yn ei flaen i ddweud nad yw hynny’n wir am Vaughan Gething.

Wrth droi ei sylw at Alun Michael, cyn-Brif Weinidog Cymru, dywedodd fod hwnnw “wedi ymddiswyddo’n syth, er clod iddo, ar ôl pleidlais o ddiffyg hyder”.

“Dyma’r cynsail ddylai gael ei ddilyn os yw’r Prif Weinidog yn colli,” meddai.

‘Y Senedd wedi siarad ar ran pobol Cymru’

Yn dilyn y bleidlais, dywed Rhun ap Iorwerth fod “y Senedd wedi siarad ar ran pobol Cymru”.

‘Rhaid i Vaughan Gething fynd’

Dywed Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fod “rhaid i Vaughan Gething fynd”.

“Byddai unrhyw ymgais i ddal gafael ar rym yn mynd yn erbyn arferion sefydledig ein democratiaeth seneddol,” meddai.

“Heb fandad y Senedd, does gan y Prif Weinidog mo’r hawl i aros yn ei swydd.

“Mae democratiaeth Cymru wedi siarad, ac mae’n rhaid iddo fo fynd.”

‘Colli hyder’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ailadrodd eu datganiad gafodd ei gyhoeddi ar drothwy’r bleidlais.

“Mae Vaughan Gething wedi colli hyder pobol Cymru,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.

“Mae e wedi colli hyder y Senedd.

“Yr unig berson sy’n dal i fatio dros Vaughan Gething yw Keir Starmer.”

Ar ôl cyhoeddi canlyniad y bleidlais, dywedodd y Llywydd Elin Jones ei bod hi “nawr yn fater i’r Prif Weinidog fyfyrio ar y farn mae’r Senedd newydd ei mynegi”.

Vaughan Gething am barhau i frwydro

“Dw i yma, yn falch o fod yn Brif Weinidog Cymru i wasanaethu ac arwain fy ngwlad,” meddai Vaughan Gething wrth annerch y wasg yn dilyn y bleidlais.

“Dyna dw i wedi’i wneud heddiw.

“Dyna fydda i’n parhau i’w wneud.”