Mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen wedi dileu hawl gwleidydd alltud o Gatalwnia i bleidleisio yn etholiadau’r wlad.

Roedd disgwyl y byddai modd i Lluís Puig, sy’n byw’n alltud ers refferendwm annibyniaeth 2017, fwrw ei bleidlais ar-lein.

Ond fe allai’r penderfyniad gael effaith ar hawl Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia, i fwrw ei bleidlais yntau o bell hefyd.

Bydd gwleidyddion yn cyfarfod ddydd Llun nesaf (Mehefin 10) i ethol Llefarydd a swyddogion newydd.

Er na fydd modd i Lluís Puig bleidleisio y tro hwn, fydd ei bleidleisiau blaenorol o bell yn ystod y tymor seneddol hwn ddim yn cael eu dileu.

Mae plaid Junts per Catalwnia wedi beirniadu’r penderfyniad a gallu’r awdurdodau i droi at y Llys Cyfansoddiadol a’r Goruchaf Lys am gefnogaeth.