Mae ymgeisydd y Blaid Werdd yn Nwyfor Meirionnydd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn breuddwydio am gael “cynghrair Geltaidd” fyddai’n cynnwys Cymru, yr Alban ac Iwerddon.
Wrth siarad â golwg360, mae Karl Drinkwater wedi bod yn trafod ei obeithion ar gyfer Cymru a gwleidyddiaeth.
Mae’n ddysgwr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru ers 1998, pan ddechreuodd astudio am radd feistr yn Adran Llyfrgellyddiaeth Prifysgol Aberystwyth.
Bu’n byw yno am ugain mlynedd, gan weithio yn y brifysgol, cyn penderfynu mynd yn awdur ffuglen yn llawn amser.
Ar hyn o bryd, mae’n byw yn Dumfries yn yr Alban, er mae’n dweud mai dyna’r rhan agosaf o’r Alban at Gymru, dros y môr, a’i fod yn gweld y wlad o’r arfordir weithiau.
Pam, felly, ei fod e wedi dewis sefyll dros y Blaid Werdd yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf?
“Dw i ddim wir isio bod yn Aelod Seneddol, y prif reswm dw i’n sefyll ydy i roi’r cyfle i bobol bleidleisio’n wyrdd oherwydd fy mod i wedi cael llond bol, ac wedi bod cael digon drwy fy oes, ar wleidyddiaeth San Steffan,” meddai.
“Does yna ddim llawer rhwng y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr, yn fy marn i.
“Ac mae’r system etholiadol Cyntaf i’r Felin yn un o nifer o esiamplau sy’n dangos nad yw San Steffan ddim yn ddemocrataidd o gwbl.
“Mae’r ffaith fy mod yn sefyll yn rhoi cyfleoedd i mi siarad allan am bethau dydy’r pleidiau mwy ddim yn barod i’w trafod, pethau fel y sefyllfa yn Gaza.
“Ar Balesteina, dydy’r rhan fwyaf o’r gwleidyddion ddim yn barod i hyd yn oed gwneud datganiad ar [y sefyllfa] – ac mae hyn yn mynd yn gwbl groes i beth mae pobol ifanc yn ei wneud drwy brotestio yn heddychlon tu allan i brifysgolion.”
Mae Plaid Cymru’n un o’r pleidiau sydd wedi galw’n agored am gadoediad a datrysiad ers mis Tachwedd y llynedd, fis wedi i Hamas ymosod ar Israel ar Hydref 7 – sydd wedi arwain at ymosodiadau parhaus ar Gaza gan Israel.
Ar hyn, dywed Karl Drinkwater fod cyfleoedd mawr i gydweithio ar elfennau pwysig fel sut i “ymateb yn heddychlon” i faterion rhyngwladol.
“Dw i yn amlwg yn lot agosach i Blaid Cymru na’r pleidiau eraill, ac mae yna lot o bethau fedrwn ni gytuno arnyn nhw,” meddai.
“Ond dw i yn meddwl bod rhai elfennau fel ynni niwclear yn rhywbeth na fedrwn gytuno arno.
“Mae gan y Gwyrddion agwedd gyfannol, ac mae Plaid Cymru yn dda iawn efo hyn hefyd ond yn ffocysu mwy ar Gymru, sydd yn gwbl iawn a theg.
“Ond byswn i’n dweud bod y Gwyrddion yn fwy rhyngwladol yn eu gweledigaeth ac yn edrych ar effaith bodau dynol ar y ddaear i gyd.”
Mae etholaeth Dwyfor Meirionnydd, sy’n cael ei chynrychioli gan Liz Saville Roberts yn San Steffan ar hyn o bryd, yn ymestyn i gynnwys Caernarfon a’r Felinheli ynghyd â wardiau Corwen a Llandrillo.
Cynghrair Geltaidd
Ar annibyniaeth i Gymru, dywed Karl Drinkwater fod “rhaid i bobol gael eu dweud ar y mater”.
“Y dyfodol delfrydol i fi yw Cymru sy’n annibynnol, Alban sy’n annibynnol ac Iwerddon sy’n annibynnol,” meddai.
“Dw i’n gallu gweld nhw’n creu ryw fath o Gynghrair Geltaidd arbennig fyddai efallai yn ail-ymuno Ewrop.
“I wlad fel yr Alban a bleidleisiodd yn erbyn Brexit, dw i’n meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i ymuno â chynghrair sy’n fwy na’r Deyrnas Unedig, ac sy’n fwy blaengar yn ei wleidyddiaeth.”
Rhoi mwy o ddewis i etholwyr
Yn ôl Karl Drinkwater, mae’n rhaid i etholwyr ledled Deyrnas Unedig gael cyfle i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
“Dw i’n meddwl y rheswm bod yna gymaint o raniad mewn gwleidyddiaeth ydy bod pethau’n dod drosodd fel bod rhaid dewis yr opsiwn hwn neu’r opsiwn arall,” meddai.
“I fi, mae yna lot o ffyrdd gwahanol i ddatrys problemau.
“Mae Brexit yn enghraifft glir o hyn lle cafodd rhywbeth ei wthio, ac roedd pobol yn ymateb yn sydyn i gwestiwn i mewn neu allan.
“Mae cyn lleied o opsiynau ar gyfer democratiaeth go iawn.
“Pam ddim cael pleidlais am rywbeth i wneud efo Tŷ’r Arglwyddi neu’r frenhiniaeth?
“Efallai na fydd rhaid gweithredu ar y pleidleisiau, ond o leiaf bydden ni’n cael gwell syniad o be’ mae pobol yn credu am faterion pwysig.”