Oni bai eich bod wedi bod yn cuddio dan graig dros yr wythnosau diwethaf, mi fyddwch chi’n gwybod erbyn hyn fod etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar Orffennaf 4.

Am y tro cyntaf, fe fydd pawb yn pleidleisio mewn etholaethau newydd. Ond beth mae hyn yn ei olygu i ni yng Nghymru? Dyma ychydig o gefndir i’r newidiadau…

 

 

 

 

 

Pam gafodd y ffiniau eu newid?

Yn dilyn adolygiad, cafodd y ffiniau eu newid er mwyn adlewyrchu twf yn y boblogaeth ac er mwyn sicrhau bod etholaethau yn fwy cyfartal gyda’r un nifer o etholwyr ym mhob etholaeth.

Cyhoeddodd y pedwar Comisiwn Ffiniau ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hargymhellion terfynol ddiwedd mis Mehefin 2023 yn dilyn ymgynghoriadau cyhoeddus.

Beth yw’r newidiadau yng Nghymru?

Roedd yn rhaid i bob etholaeth gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr, ar wahân i Ynys Môn sy’n parhau heb ei newid yn dilyn yr arolwg o’r ffiniau.

Mae nifer y seddi sydd gan Gymru bellach wedi gostwng o 40 i 32.

Bydd 21 o’r etholaethau yn aros fel ag y maen nhw, heb unrhyw newidiadau. Bydd yr 11 arall un ai’n gweld newidiadau i’w henwau neu i’w ffiniau.

Pa etholaethau sydd wedi’u heffeithio?

Bydd un o’r newidiadau mwyaf yn Arfon, un o etholaethau lleiaf gwledydd Prydain, wrth iddi gael ei cholli’n llwyr. Mae hyn yn golygu bod y 43,000 o etholwyr yn Arfon yn cael eu rhannu rhwng dwy etholaeth – Dwyfor Meirionnydd a Bangor Aberconwy.

Bydd wardiau Corwen a Llandrillo’n cael eu cynnwys yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, fydd yn cael ei alw’n Maldwyn a Glyndŵr.

Er y bydd yn aros yr un fath yn ddaearyddol, bydd Merthyr Tudful a Chynon Uchaf yn dod yn Ferthyr Tudful ac Aberdâr, a hynny am fod y Comisiwn yn teimlo bod yr enw’n haws i’w hadnabod.

Bydd ardal Castell-nedd ac Abertawe hefyd yn gweld newidiadau.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig tair etholaeth dros yr ardal, sef Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe a Gwŷr.

Bydd ward Glandŵr yn cael ei chynnwys yn etholaeth Gorllewin Abertawe, tra bydd Sgiwen yn etholaeth Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, ynghyd â rhan o etholaeth bresennol Dwyrain Abertawe.

Bydd etholaeth newydd Gwŷr yn cynnwys pum ward sydd yn etholaeth Gorllewin Abertawe ar hyn o bryd.

Bydd newidiadau hefyd yn etholaethau Caerffili, Gorllewin Casnewydd, Islwyn, Pen-y-bont ar Ogwr, Cwm Rhondda ac Aberafan.

Yng Ngheredigion, bydd yr etholaeth yn uno ag etholaeth bresennol Preseli Penfro i greu Ceredigion Preseli.

Beth yw’r pryderon am y newidiadau?

Mae nifer yn poeni am yr her o wasanaethu etholaeth fawr, gyda chymunedau tra gwahanol o fewn ei ffiniau.

Dadl arall yw bod yr etholaethau mwy yn ei gwneud hi’n anodd i Aelodau Seneddol ddod i adnabod eu hetholaeth ar lefel bersonol, sy’n ei gwneud hi’n anodd gwybod pa anghenion yn union sydd angen eu diwallu.

Cafodd y ddadl yma ei chodi gan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur wrth iddyn nhw wrthwynebu’r cynlluniau ar y sail ei fod yn lleihau llais Cymru ac yn tanseilio’r gallu i gynrychioli etholwyr.

Ond yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r newidiadau yn gwneud y broses yn fwy teg drwy sicrhau bod pob pleidlais yn cario pwysau cyfartal.

Sut fydd y newidiadau i’r ffiniau yn effeithio ar y pleidiau yng Nghymru?

Bydd colli etholaeth Arfon yn ergyd i Blaid Cymru, a’r pwysau arnyn nhw i gipio sedd newydd Bangor Aberconwy. Ar hyn o bryd, y Ceidwadwr Robin Millar o Fangor sy’n cynrychioli pobol Aberconwy yn San Steffan.

Mae sawl esiampl o ardaloedd sydd yn ffafriol i Lafur yn cael eu hychwanegu at etholaethau Ceidwadol.

Ond mae’r newidiadau i’r ffiniau’n annhebygol o effeithio goruchafiaeth Llafur yn y Cymoedd a dinasoedd y de.

Mae’r newidiadau yn ei gwneud hi bron yn amhosib i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill sedd.