Gallai Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn, wedi i Aelod o’r Senedd ddweud bod dau o’i chydweithwyr Llafur yn sâl.
Bydd y Prif Weinidog yn wynebu’r bleidlais, sydd wedi cael ei galw gan y Ceidwadwyr, yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5).
Fore heddiw, dywedodd Vikki Howells, cadeirydd y Grŵp Llafur yn y Senedd, wrth Radio Wales Breakfast nad yw dau aelod yn teimlo’n dda.
Gan mai union hanner y seddi yn y Senedd sydd gan y Blaid Lafur, mae angen cefnogaeth pob un o’u haelodau ar y Prif Weinidog i oroesi’r bleidlais.
Mae’r BBC bellach yn adrodd mai’r aelodau dan sylw ydy Hannah Blythyn, gafodd ei diswyddo o gabinet Vaughan Gething dan honiadau o ryddhau gwybodaeth i’r wasg, a Lee Waters, y cyn-weinidog trafnidiaeth.
Doedd yr un ohonyn nhw yn y Senedd ddoe chwaith, a dydy hi ddim yn amlwg a fydd y ddau Aelod yn cael pleidleisio o bell.
Does gan yr un ohonyn nhw bleidleisiau trwy ddirprwy, sy’n cael eu defnyddio pan fo aelod yn absennol am gyfnodau hirach.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw’r bleidlais o ddiffyg hyder wedi wythnosau o feirniadaeth yn erbyn y Prif Weinidog am ei benderfyniad i dderbyn cyfraniadau gan ddyn busnes sydd wedi’i ganfod yn euog o droseddau amgylcheddol ddwywaith.
‘Gimic gan y Torïaid’
Pe bai Vaughan Gething yn colli’r bleidlais, does dim gorfodaeth arno i gamu o’r neilltu fel Prif Weinidog nac fel arweinydd y Blaid Lafur.
Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Vikki Howells, Aelod o’r Senedd Cwm Cynon, na fyddai’r Prif Weinidog yn camu o’i swydd pe bai’n colli.
“Mae’r bleidlais sy’n cael ei chynnal brynhawn heddiw yn gimic gan y Torïaid, sy’n barod i wneud unrhyw beth i dynnu’r sylw oddi ar eu 14 mlynedd ofnadwy mewn llywodraeth [yn San Steffan],” meddai.
‘Colli hyder’
Ychwanega Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod pobol Cymru wedi colli hyder yn Vaughan Gething.
“Yr unig berson ar ôl sy’n cefnogi Vaughan Gething ydy Keir Starmer,” meddai.
‘Cwestiynau i’w hateb’
Yn sgil y sefyllfa, mae Plaid Cymru wedi dod â’r Cytundeb Cydweithio rhyngddyn nhw a’r Blaid Lafur i ben yn gynnar hefyd.
Ar drothwy’r bleidlais, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod yna gwestiynau i’w hateb ynghylch gallu Vaughan Gething i lywodraethu.
“Wrth dderbyn rhodd o £200,000 gan lygrwr sydd wedi’i gael yn euog, mae’r Prif Weinidog wedi tanseilio’i swydd ei hun a hyder pobol Cymru yn ei allu i lywodraethu,” meddai.
“Ar adeg pan fo ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn isel, mae unrhyw ganfyddiad o ddylanwad allanol ym mhenderfyniadau Llywodraeth Lafur Cymru’n erydu hyder y cyhoedd.
“Mae amharodrwydd y Prif Weinidog i gyfaddef ei ddiffyg crebwyll difrifol yn arwydd o agwedd ddi-hid bryderus.”