Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn Prif Weinidog Cymru.

Bydd Vaughan Gething yn wynebu dadl a phleidlais yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (Mehefin 5).

Mae’n wynebu cwestiynau o hyd ynghylch rhodd o £200,000 gan gwmni unigolyn gafwyd yn euog yn y gorffennol o droseddau amgylcheddol, ynghyd â dileu negeseuon WhatsApp am Covid-19, a diswyddo Hannah Blythyn, un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bydd y bleidlais yn gyfle i “Aelodau’r Senedd ddweud eu dweud” am benderfyniadau, tryloywder a gonestrwydd y Prif Weinidog.

“Mae’r llu o gwestiynau sydd heb eu hateb wedi parlysu Llywodraeth Cymru i’r pwynt lle mae Gething wedi methu’n llwyr â chymryd camau i fynd i’r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi torri record, cyrhaeddiadau addysg yn llithro, a diffyg gweithgarwch uchel o ran yr economi,” meddai.

“Mae’n bryd rhoi terfyn ar gymylu, y llithro a’r brwydro mewnol, a phleidleisio o blaid diffyg hyder yn Vaughan Gething.”