“Mynd amdani a dechrau nawr” yw neges un o siaradwyr newydd yr Urdd i’r rhai sy’n ystyried dysgu Cymraeg.

Mae’r Urdd wedi denu unigolion, partïon a chorau o ddysgwyr o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, am y tro cyntaf eleni.

Y llynedd, cafodd cystadleuaeth corau dysgwyr ei chyflwyno, gyda chwe chôr yn cystadlu.

Eleni, fe wnaeth 24 côr gystadlu mewn eisteddfodau cylch.

Heddiw (dydd Mercher, Mai 29), mae’r Urdd yn dathlu siaradwyr Cymraeg newydd.

Dysgu Cymraeg drwy chwaraeon

Un o’r rheiny ydy Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol yr Urdd, sy’n gweithio mewn cymunedau amrywiol megis Trelluest (Grangetown) a Thre-biwt yng Nghaerdydd, yn rhoi cyfleoedd chwaraeon a gwirfoddoli i blant a phobol ifanc.

“Mae’n bwysig iawn creu cyfleoedd i blant drwy chwaraeon, achos mae chwaraeon yn bwysig i ddatblygiad plant; mae pawb yn cael cyfle i chwarae a chadw’n heini,” meddai Nooh Ibrahim wrth golwg360.

“Dw i’n gweithio gyda phlant sydd ddim yn siarad Cymraeg a phlant sydd yn siarad Cymraeg, ac mae’r plant sydd ddim yn siarad Cymraeg yn dysgu drwy chwaraeon, achos mae chwaraeon yn hwyl ac mae’r plant ddim eisiau eistedd yn y dosbarth a dysgu Cymraeg.

“Maen nhw eisiau rhedeg o gwmpas a chadw’n heini, a dw i’n dysgu tipyn bach iddyn nhw – rhifau ac ati.

“Darn wrth ddarn.”

Taith iaith Nooh Ibrahim

Dechreuodd Nooh Ibrahim ddysgu Cymraeg tua blwyddyn a hanner yn ôl, ar ôl cael hyfforddiant yn ei waith gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“I ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod Cymraeg yn anodd, ond na… dim yn anodd o gwbl.

“Mae cymunedau siarad Cymraeg yn supportive iawn, maen nhw’n dathlu ti a helpu ti i siarad.

“Mae cymunedau sy’n siarad Cymraeg yn annog ti a helpu chdi i ddysgu.

“Os wyt ti eisiau dysgu Cymraeg, mynd amdani a dechrau nawr!”

Gwersi Cymraeg i’r gweithlu

Fel rhan o’r bartneriaeth rhwng yr Urdd a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae rhaglen hyfforddiant Dysgu Cymraeg wedi’i rhoi ar waith er mwyn cefnogi nod yr Urdd o ddenu gweithlu amrywiol, ac o gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru gyfan.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cefnogaeth gan diwtor o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, ac ar hyn o bryd mae Yusuf Bille a Hudhayfah Arish, Prentisiaid Datblygu Chwaraeon yr Urdd, yn derbyn pum awr o wersi wyneb yn wyneb yr wythnos, ac mae staff cegin Gwersyll Llangrannog o Wcráin yn derbyn gwersi wythnosol ers mis Hydref.

“Mae’r Urdd yn perthyn i bawb, a’r Gymraeg yn ganolog i waith yr Urdd. Nid oes mudiad ei thebyg yn y byd ac rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol am arwain y ffordd yn narpariaeth ieuenctid llwyddiannus drwy iaith leiafrifol,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb arnom fel mudiad i sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru, rywbryd yn eu hieuenctid, trwy’r Urdd, yn profi cyswllt gyda’r Gymraeg a dealltwriaeth o’i werth.”

 

@golwg360

“Mynd amdani a dechrau nawr” yw neges un o siaradwyr newydd yr Urdd i’r rhai sy’n ystyried dysgu Cymraeg 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Un o rheiny ydy Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol yr Urdd, sy’n gweithio mewn cymunedau amrywiol megis Trelluest (Grangetown) a Thre-biwt yng Nghaerdydd, yn rhoi cyfleoedd chwaraeon a gwirfoddoli i blant a phobol ifanc. #cymru #eisteddfod #dysgucymraeg

♬ original sound – golwg360