Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon sy’n camu o’r neilltu yn yr etholiad cyffredinol, yn dweud bod y Blaid Lafur wedi “cynllwynio yn erbyn Diane Abbott”.

Yn ôl Abbott, Aelod Seneddol Gogledd Hackney a Stoke Newington, mae Llafur wedi dychwelyd y chwip iddi ond wedi ei gwahardd hi rhag sefyll drostyn nhw yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

“Er bod y chwip wedi cael ei adfer, dw i wedi cael fy ngwahardd rhag sefyll fel ymgeisydd Llafur,” meddai wrth y BBC.

Cafodd ei gwahardd yn dilyn cyhoeddi llythyr am hiliaeth yn The Observer fis Ebrill y llynedd, ac mae hi bellach wedi ymddiheuro am gynnwys y llythyr.

Oes o wasanaeth i Lafur

Wrth siarad â golwg360, dywed Hywel Williams ar ei ddiwrnod olaf yn ei swydd fod y ffordd mae Diane Abbott wedi cael ei thrin yn “gwbl annheg”, o gofio’r ffordd mae hi wedi rhoi oes o wasanaeth i’r Blaid Lafur ac i wleidyddiaeth Brydeinig.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo ddweud mewn datganiad fod yr hyn sydd wedi digwydd i Diane Abbott yn dangos yr angen am “fudiad mawr, cryf ac annibynnol o aelodau seneddol Plaid Cymru”.

Dywed ei fod yn “gwerthfawrogi” Diane Abbott yn fawr am yr “ymroddiad i sefyll i fyny dros be’ sy’n iawn.”

Mae’n feirniadol o’r ffordd mae’r Blaid Lafur wedi ymdrin ag aelodau seneddol adain chwith, megis Beth Winter.

Dydy Aelod Seneddol Cwm Cynon ddim am gael sefyll eto yn dilyn newid ffiniau etholaethol, ac mae hi’n galw am ymchwiliad i’r ffordd y cafodd y penderfyniad ei wneud.

Gerald Jones sydd wedi’i ddewis i frwydro sedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf.

Yn ôl Hywel Williams, mae’r “grym” sy’n cael ei ddangos gan bencadlys y Blaid Lafur yn “waeth nag unrhyw beth dw i wedi’i weld yn fy 23 mlynedd o fewn gwleidyddiaeth”.

Mae’r Blaid Lafur wedi gwrthod gwneud sylw.