Fydd Geraint Davies, Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe, ddim yn sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Cafodd ei wahardd o’r blaid fis Mehefin y llynedd yn sgil cyhuddiadau o “ymddygiad hollol annerbyniol” a honiadau “eithriadol o ddifrifol”.

Roedd pump o fenywod wedi honni ei fod e wedi rhoi sylw rhywiol corfforol a geiriol iddyn nhw nad oedden nhw ei eisiau.

Ond ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Geraint Davies yn ddiweddar ei fod e’n “siomedig” nad yw e wedi cael cyfle i amddiffyn ei hun ac mae’n gwadu’r honiadau yn ei erbyn.

Dywed y bydd yn parhau i geisio gwrandawiad teg ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Y llynedd, daeth i’r amlwg fod tair aelod seneddol wedi cael eu rhybuddio ynghylch ymddygiad Geraint Davies wrth iddyn nhw fentro i San Steffan.