Mae angen adolygu’r polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol cyn i ysgol uwchradd yn Llanfair Caereinion newid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg, medd pennaeth addysg Cyngor Powys.
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys ddoe (dydd Mawrth, Mai 28), cytunodd cynghorwyr ar gynnig sy’n golygu bod Ysgol Bro Caereinion, ysgol gynradd ac uwchradd bob oed Llanfair Caereinion, am ddod yn ysgol Gymraeg.
Bydd hyn yn digwydd fesul cam, gan ddechrau gyda’r dosbarth Derbyn fis Medi 2025, a Blwyddyn 7 fis Medi 2026.
Roedd cludiant ysgol yn un o’r materion gafodd eu codi yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.
Yn rhan o’r newidiadau i’r cynnig gwreiddiol, cytunodd y Cyngor i alluogi disgyblion ffrwd Saesneg hyd at Flwyddyn 4 yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan (Tregynon) i dderbyn cludiant o’r cartref i’w hysgol Saesneg agosaf.
Fe wnaeth Bryn Davies, cynghorydd Plaid Cymru sy’n cynrychioli rhannau o ddalgylch Bro Caereinion, oedd wedi codi mater cludiant ysgol.
“Mae angen i’r polisi gydnabod ac adlewyrchu’r gwahaniaeth mawr rhwng ysgolion Cymraeg ac ysgolion dwy ffrwd,” meddai.
“Yn y cyfamser, a hyd nes bod y polisi hwnnw’n cael ei newid, rydym yn gweld y deilydd portffolio addysg yn defnyddio pwerau trwy ddisgresiwn i alluogi plant i deithio i ysgolion Saesneg am oddeutu pedair blynedd.
“Dw i’n deall pam, ond yn yr un modd mae’n bwsig fod pwerau trwy ddisgresiwn yn cael eu cefnyddio i alluogi’r cludiant angenrheidiol i gael ei gynnig i’r rhai sydd am gael eu haddysgu yn Gymraeg ym Mro Caereinion, felly mae hynny’n llwyddiant.”
Ychwanegodd y dylai plant ledled Sir Drefaldwyn gael y cyfle i fynychu Bro Caereinion pe baen nhw’n dymuno gwneud hynny, ond nad yw’r polisi’n galluogi hynny ar hyn o bryd.
‘Mynediad cyfartal’
Fe wnaeth y Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, godi mater cludiant hefyd.
“Dylai pob plentyn ym Mhowys gael mynediad cyfartal i addysg Gymraeg,” meddai.
Dywedodd ei bod hi’n “dda” gweld yr addasiad, ond y bydd yn “dadfeilio dros amser” wrth i’r disgyblion fynd yn hŷn a symud i fyny’r ysgol.
Ychwanegodd fod ei grŵp wedi bod yn gwthio am bolisi cludiant mwy hyblyg i alluogi rhieni i ddewis yr ysgol maen nhw eisiau anfon eu plant iddi.
“Ddylai’r dewis hwnnw ddim bod ar gyfer rhieni sydd â’r adnoddau i gludo’r plant eu hunain yn unig,” meddai.
Dywedodd Marianne Evans, rheolwr trawsnewid ysgolion, fod y materion hyn wedi cael eu crybwyll mewn adrannau o’r adroddiad.
“Pe bai’r polisi hwn yn cael ei adolygu, byddai angen iddo fynd allan ar gyfer ymgynghoriad gwahanol ar gyfer cludiant o’r cartref i’r ysgol,” meddai.
“Bydd angen i deuluoedd wneud cais ar gyfer cludiant o’r cartref i’r ysgol, a gweld beth yw’r penderfyniadau hyn yn unol â’r polisi.”
Adroddiad
Yn yr adroddiad, caiff y Cyngor eu cynghori i adolygu’r polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol er mwyn sicrhau bod disgyblion sydd am gael mynediad at ddarpariaeth uwchradd Gymraeg yn gallu ei gael.
“Mae angen i ni adolygu’r polisi, ac mae’n rywbeth sydd angen digwydd cyn i ni symud yn 2026,” meddai Marianne Evans.
Dyna pryd y bydd Ysgol Uwchradd Bro Caereinion yn dechrau dod yn ysgol Gymraeg.
Fe wnaeth y Cynghorydd Peter Roberts, y Democrat Rhyddfrydol a deilydd y portffolio addysg, bwysleisio nad y broses o newid iaith Ysgol Bro Caereinin yw’r “lle” i drafod polisi cludiant ysgol.
Fe wnaeth e atgoffa Aled Davies y dylai ddeall y broses, gan ei fod e wedi arwain ar y newid polisi blaenorol yn ystod ei gyfnod yn y Cabinet i’w ffurf bresennol.
“Mae newid sylweddol i gludiant ysgolion yn golygu proses statudol ffurfiol, a dyna pam fod mesurau dros dro wedi cael eu rhoi ar waith,” meddai.
Cymorth
Yn y cyfamser, mae ysgol arall ym Mhowys wedi cynnig cymorth i Ysgol Bro Caereinion.
Ers mis Medi 2022, mae dosbarth Derbyn Ysgol Bro Hyddgen yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd hyn yn y pen draw yn golygu bod pob dosbarth hyd at y Chweched Dosbarth yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg.
Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor Sir, yw cadeirydd llywodraethwyr Bro Hyddgen.
“Dw i’n gwerthfawrogi y bydd rhai yn gwrthwynebu hyn, ond mewn gwirionedd mae angen i ni edrych ar y darlun mawr, ac mae rhai o’r pryderon megis diffyg athrawon yn her wirioneddol,” meddai.
Eglurodd fod y mater hwn eisoes wedi’i drafod ym Mro Hyddgen.
“Rydym yn credu ei bod yn ddymunol i’r ysgolion gydweithio i rannu adnoddau ac athrawon,” meddai.
Wrth edrych ar daith Bro Hyddgen tuag at ddod yn ysgol Gymraeg, fe fu Elwyn Vaughan yn cofio’r “teimladau cryf” o amgylch y dref wrth wrthwynebu’r cam.
“Unwaith gwnaethpwyd y penderfyniad, fe welson ni’r gymuned yn dod ynghyd ac yn uno yn yr ysgol sydd wrth galon y gymuned,” meddai.
Mae’n credu bod angen gweld sgiliau dwyieithrwydd pobol ifanc fel “cryfder ac nid fel problem”.
“I’r rhieni hynny sydd ag amheuon, fy apêl i chi ydy i chi gydweithio â’r ysgol, y Cyngor a’r sefydliadau hynny sy’n barod i’ch cefnogi chi drwy’r broses hon,” meddai.
“Mae’r cyflenwad o athrawon yn amlwg yn broblem fawr, a nifer o’r bobol ifanc rydyn ni am fod yn eu haddysgu ym Mro Caereinion fydd athrawon Cymraeg y dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Richard Church, yr Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel.
“Allwch chi ddim cyflenwi’r athrawon oni bai ein bod ni’n cynnig yr addysg yn y lle cyntaf, ac mae’n rhaid i ni ddechrau gwneud hynny yn rhywle.”