Dydy Llafur ddim yn cynnig llawer mwy i Gymru na “brandio newydd”, yn ôl Ben Lake.
Daw sylwadau llefarydd y Trysorlys wrth iddo feirniadu Llafur a’r Ceidwadwyr am “barhau i ddal Cymru yn ôl” yn ariannol.
Mae’n sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth newydd Ceredigion Preseli, ac yn dweud bod Llafur yn parhau i gynnig:
- cadw at reolau gwario’r Ceidwadwyr
- amddifadu Cymru o gyfran deg o arian ar gyfer trafnidiaeth
- cadw at bolisi masnach Ewropeaidd niweidiol
Dywed fod angen “cynlluniau economaidd uchelgeisiol” ar Gymru “er mwyn torri’r cylch economaidd siomedig”, gan gynnwys buddsoddi yn yr economi i “yrru twf a lleihau anghydraddoldeb”.
Ychwanega y byddai Plaid Cymru’n dileu’r “rhwystrau masnachu sy’n dal Cymru yn ôl ac yn ailymuno â’r farchnad sengl”.
‘Sefyllfa enbyd’
“Yn yr etholiad cyffredinol hwn, rydym yn wynebu sefyllfa enbyd lle mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi’u clymu wrth gonsensws ariannol fydd yn parhau i ddal Cymru yn ôl,” meddai Ben Lake.
“O gadw at reolau gwario Ceidwadol i amddifadu Cymru o gyfran deg o arian trafnidiaeth, i gadw at bolisi masnachu Ewropeaidd niweidiol, mae’n glir nad yw Llafur yn cynnig llawer mwy na brandio newydd.
“Mae angen cynlluniau economaidd uchelgeisiol arnom i dorri’r cylch economaidd siomedig rydyn ni ynddo.
“Byddai Plaid Cymru’n buddsoddi yn economi Cymru er mwyn gyrru twf a lleihau cydraddoldeb.
“Byddem yn dileu’r rhwystrau masnachu sy’n dal Cymru yn ôl, ac yn ailymuno â’r farchnad sengl.”
Ynni gwyrdd i drechu tlodi
Yn y cyfamser, dywed Liz Saville Roberts y byddai Plaid Cmru’n defnyddio ynni gwyrdd er mwyn trechu tlodi.
Yn ôl arweinydd y Blaid yn San Steffan, sy’n ymgeisydd yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, dylid defnyddio arian mawr Ystad y Goron er budd cymunedau Cymru drw greu cronfa cyfoeth sofran.
Mae Ystad y Goron yn cwmpasu tir ac asedau sy’n eiddo’r Brenin, gan gynnwys ynni adnewyddadwy o Gymru sydd heb ei gyffwrdd.
Ar hyn o bryd, y Trysorlys sy’n derbyn elw net o Ystad y Goron, ac mae canran o’r arian (25% ar hyn o bryd) yn dod yn ôl i’r Brenin tuag at ddyletswyddau swyddogol.
Ond mae disgwyl i’r 25% ostwng i 12% o ganlyniad i incwm sy’n tyfu o brosiectau ffermydd gwynt oddi ar y lan, gan roi hwb sylweddol i elw Ystad y Goron.
£853m yw gwerth ased Ystad y Goron yng Nghymru, ac fe wnaeth Ystad y Goron yn ei chyfanrwydd elw refeniw net o £442.6m yn 2023 – £129.9m yn uwch na’r flwyddyn gynt.
Gallai prosiectau ffermydd gwynt oddi ar y lan gynhyrchu £43bn mewn rhent, yn ôl rhagolygon blaenorol.
Mae gwledydd eraill, fel Norwy, wedi defnyddio’u hadnoddau naturiol i sefydlu cronfeydd cyfoeth ar gyfer trigolion.
Yn ôl astudiaeth gan PwC, gallai’r Deyrnas Unedig fod wedi adeiladu cronfa werth £450bn pe bai derbynebau treth o feysydd olew a nwy wedi cael eu rhoi mewn cronfa debyg.
“Yr economi sy’n bwysig yn yr etholiad hwn,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae pobol yn ei chael hi’n anodd ar ôl 14 o flynyddoedd o gamreolaeth y Torïaid.
“Dyna pam fod Plaid Cymru heddiw’n amlinellu ein cynllun i ddefnyddio elw ynni gwyrdd i fynd i’r afael â thlodi.
“Mae rheoli Ystad y Goron yn cynnig cyfle enfawr i Gymru ddefnyddio’r elw sy’n cael ei gynhyrchu drw adnoddau naturiol Cymru er budd cenedlaethau’r dyfodol drwy sefydlu Cronfa Sofran Gymreig.
“Mae hyn, wrth gwrs, wedi’i ysbrydoli gan gronfeydd cyfoeth tebyg sydd wedi’u hadeiladu gan wledydd fel Norwy a Qatar, ond wedi’u hadeiladu ag elw ynni adnewyddadwy yn hytrach nag olew.
“Yn wahanol i Norwy, fe wnaeth y Deyrnas Unedig fethu’n lân â rhannu’r cyfoeth gafodd ei gynhyrchu o olew Môr y Gogledd.
“Dylai Cymru ddysgu’r wers o’r methiant hwnnw, a dechrau buddsoddi mewn cronfa gyfoeth allai gael ei defnyddio i yrru biliau ynni i lawr, a dechrau mynd i’r afael go iawn â thlodi ac anghydraddoldeb.
“Gallai hefyd ddarparu gwarchodaeth rhag sioc economaidd yn y dyfodol – rhywbeth sydd yn arbennig o bwysig o ystyried yr effaith mae newid hinsawdd yn bygwth ei chael ar economi’r byd.
“Fe wnaeth yr Alban ennill rheolaeth dros Ystad y Goron yn 2017, sydd eisoes wedi sicrhau miliynau o bunnoedd i Lywodraeth yr Alban.
“Rhaid i Gymru gael yr un rheolaeth dros ei hadnoddau naturiol ei hun.
“Mae datblygiadau Ystad y Goron megis gwynt oddi ar y lan yn cynnig cyfle hanesyddol i economi Cymru.
“Gallai greu miloedd y swyddi a chyfrannu’n sylweddol at ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
“Pobol Cymru ddylai fod yn elwa ar y cyfle economaidd hwn – nid y Brenin na San Steffan.”