Cafodd Proclamasiwn Powys ei gyflwyno i’r Cyngor Sir gan Gymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ddoe (dydd Mawrth, Mai 28).
Nod y Proclamasiwn, gafodd ei lunio gan aelodau’r Gymdeithas ym Mhowys, yw gosod camau tymor byr cyraeddadwy i Gyngor Powys gael cynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir, a hynny’n ran o nod ehangach y mudiad i sicrhau addysg Gymraeg i bob plentyn yn y sir ac yng Nghymru erbyn 2050.
Cyn cyflwyno’r proclamasiwn, roedd trafodaeth rhwng y cynghorydd lleol Elwyn Vaughan, Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith, Cadi Glwys, sy’n ddisgybl ysgol ym Mhowys, ac Arwyn Groe, rhiant ym Mhowys.
“Amcan Cymdeithas yr Iaith ar gyfer Powys fel pob sir arall yw bod pob plentyn yn y pen draw yn cael addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai Osian Rhys o Grŵp Addysg y Gymdeithas.
“Ym Mhroclamasiwn Powys mae camau cyntaf ymarferol gall Gyngor Powys gymryd nawr ac y dylai ei gymryd ar unwaith i gyflawni hynny.
“Yn y bôn, symud ysgolion cyfrwng Saesneg i fod yn ysgolion dwyieithog, a throi ysgolion dwyieithog, dwy ffrŵd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
“Dwi’n meddwl – fel oedden ni’n clywed gan Steffan Harri, Llywydd y ddydd ddoe – bod hawl gyda phlant Powys fel pob plentyn arall yng Nghymru i gael addysg Gymraeg.
“Ar hyn o bryd mae mwyafrif llethol o blant Powys yn gadael yr ysgol heb y gallu i siarad Cymraeg a dwi’n meddwl bod hyna’n sefyllfa gwbl anghynaladwy.”
Ysgol Bro Caereinion
Ar yr un diwrnod, cadarnhaodd Gyngor Powys y bwriad i barhau gyda chynlluniau i symud Ysgol Bro Caereinion at fod yn un cyfrwng Cymraeg dros amser.
Cafodd hyn ei groesawu gan Gymdeithas yr Iaith fel “cam pwysig” sy’n adlewychu brwdfrydedd pobol Powys tuag at yr iaith.
Gobaith y mudiad yw y bydd y Proclamasiwn a’r digwyddiad yn Eisteddfod yr Urdd yn cyfrannu at barhad yr ymdrechion yma.
Yn genedlaethol, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am sicrhau addysg Gymraeg addysg i bob disgybl erbyn 2050.
Yn y Senedd yn ddiweddar, cyhoeddodd y mudiad waith ystadegol yn dangos sut y gall pob awdurdod lleol gyrraedd y nod hynny.
Mae’r Proclamasiwn yn cynnig camau ymarferol tuag at hynny.