Mae gwerth £600m o gyllid i Gymru mewn perygl yn sgil cynllun y Ceidwadwyr i gyflwyno Gwasanaeth Cenedlaethol, yn ôl Llafur.

Maen nhw’n dweud bod cyhoeddiad mawr cynta’r Ceidwadwyr ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4 wedi tynnu £1.5bn allan o Gronfa Ffyniant a Rennir y Deyrnas Unedig – arian sydd yn lle’r cyllid sydd wedi’i golli o ganlyniad i Brexit.

Ers i’r gronfa gael ei chyflwyno yn 2022, mae Cymru wedi derbyn bron i £600m ar gyfer prosiectau i gefnogi cynlluniau Codi’r Gwastad, ond mae’r gronfa dan y lach oherwydd ei natur ganolog a’r defnydd gwleidyddol ohoni.

Yn ôl Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, “mae’n bryd i Gymru gymryd rheolaeth yn ôl”.

Yn ôl Llafur, roedd cyhoeddiad David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, na fyddai Cymru’n colli cyllid yn un “ffals”, ac roedd dau weinidog Ceidwadol hefyd wedi gwrthod y polisi.

‘Dim ymgynghoriad’

Dywed Llafur nad oedd Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi ymgynghori â nhw ar bolisi Gwasanaeth Cenedlaethol.

Yn ôl y cynllun, byddai pobol 18 oed yn cymryd rhan mewn gwasanaeth milwrol ac anfilwrol, gyda rhai gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn ardaloedd datganoledig.

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, a Rachel Reeves, Canghellor yr Wrthblaid, yn ymweld ag Ynys Môn heddiw (dydd Mercher, Mai 29) i gefnogi Ieuan Môn Williams, yr ymgeisydd Llafur yno.

Mae disgwyl i Rachel Reeves gyhoeddi ei chynlluniau i sicrhau ariannu teg i gymunedau Cymru.

“Mae’r Torïaid mewn anhrefn llwyr gyda’u gimic despret sydd wedi’i hanner pobi,” meddai.

“Maen nhw wedi torri eu haddewidion ar Godi’r Gwastad, ac wedi tanseilio datganoli dro ar ôl tro.

“O’i wneud yn iawn, gall y cronfeydd hyn gyrraedd cymunedau difreintiedig i ysgogi cyfleoedd a thwf economaidd newydd.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cronfeydd sy’n hybu datblygiad economaidd mewn cymunedau fel Ynys Môn, adfer rôl gwneud penderfniadau ar arian strwythurol i Gymru, a chefnogi creu swyddi lleol da.

“Dim ond Llafur sy’n cynnig y newid sydd ei angen ar Gymru.

“Byddwn ni’n gwasanaethu er budd y Deyrnas Unedig gyfan.”

‘Diffyg datgloi cyfleoedd’

Yn ôl Jo Stevens, mae’r Ceidwadwyr “o hyd yn bradychu Cymru” er mwyn “ariannu eu gimics di-drefn”.

“Mae anobaith Rishi Sunak yn parhau i dynnu arian mae mawr ei angen o gymunedau fel Ynys Môn, sy’n frith o gyfleoedd mae ei blaid wedi methu â’u datgloi dros y 14 mlynedd diwethaf,” meddai.

“Dim ond Llafur sy’n cynnig y newid sydd ei angen ar Gymru.

“Byddwn ni’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno’r cyfle mae ein gwlad yn ei haeddu.”

‘Peiriant twll yn y wal’

Yn ôl Vaughan Gething, byddai peidio â phleidleisio dros Lafur yn golygu bod Cymru’n parhau i gael ei “defnyddio fel twll yn y wal”.

“Mae Rishi Sunak wedi tanseilio datganoli ac wedi siomi pobol Cymru’n ariannol gyda Chronfa Ffyniant a Rennir y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Nawr, mae e eisiau ei dileu’n llwyr.

“Mae Llafur yn cynnig troi’r dudalen ar yr anhrefn Ceidwadol yma a chyflwyno’r newid mae’r wlad hon yn gweiddi’n groch amdano.

“Dim ond Llafur sydd â chynllun credadwy i fuddsoddi yng Nghymru.

“Byddwn ni’n adfer y grym i benderfynu sut mae’r arian hyn yn cael ei wario yng Nghymru, gan ddod â chyfleoedd i ogledd a gorllewin Cymru, ynghyd â chymunedau’r cymoedd.

“Gyda’n gorchwyl ar gyfer y dyfodol, mae gan Lafur gynllun hirdymor difrifol i newid Prydain gyda thwf a chyfleoedd sy’n hybu economi Cymru.”