Addysg wleidyddol sydd ei hangen ar bobol ifanc Cymru, nid gwasanaeth cenedlaethol, yn ôl Plaid Cymru.

Mae’r Senedd wedi cefnogi galwad Sioned Williams, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, i sicrhau bod addysg wleidyddol ar gael mewn ysgolion a cholegau.

Dywed fod “cyfle wedi’i golli” yn y Cwricwlwm newydd, gafodd ei gyflwyno ar yr un pryd â rhoi’r bleidlais i bobol ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru.

Uchelgais Sioned Williams yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael addysg glir a chyson ar wleidyddiaeth a democratiaeth – rhywbeth sy’n “amserol a hanfodol”, meddai.

Dywed ei bod yn “hen bryd” i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r ffaith fod y nifer sy’n pleidleisio’n gyson is na hanner cyfanswm yr etholwyr yn y wlad ar gyfer etholiadau’r Senedd.

Dim ond tua hanner y bobol 16 a 17 oed oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021, yn ôl pob tebyg.

Bil Addysg Wleidyddol

Roedd cynnig Sioned Williams ar gyfer Bil Addysg Wleidyddol yn:

  • sicrhau bod addysg benodol yn ymwneud â gwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru yn cael ei darparu
  • ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu dinesig
  • sicrhau bod pobol ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo’n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a’r pwrpas a’r broses o fwrw eu pleidlais.

“Mae Cymru wedi dangos y gall arwain y ffordd o ran democratiaeth – hi fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i symud yn gyfan gwbl at ddefnyddio dull cyfrannol i ethol aelodau i’w Senedd, ac rydym eisoes wedi sicrhau pleidleisiau i bobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed yn etholiadau Cymru,” meddai Sioned Williams.

“Ond mae yna un ffactor sy’n ein dal ni’n ôl, a dyna’r nifer sy’n pleidleisio, yn enwedig o blith pobol ifanc.

“Os ydym yn credu mewn sicrhau’r ddemocratiaeth orau bosibl i Gymru, ni allwn eistedd yn ôl a derbyn bod nifer y bobol sy’n pleidleisio i ddewis eu cynrychiolwyr yn y Senedd hon yn gyson yn llai na hanner cyfanswm etholwyr Cymru.

“Mae angen i ni weithredu i newid hynny. A dyna beth a’m hysgogodd i gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Senedd, yn dilyn deisebau, adroddiadau a phryderon a godwyd gan bobol ifanc eu hunain bod diffyg ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth a’r broses ddemocrataidd.

“Rwyf mor falch bod fy nghynnig wedi ennill cefnogaeth y Senedd, er yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi ymatal.

“Mae’n amserol, yn hanfodol ac yn hen bryd i’r llywodraeth wrando ar y galwadau hyn a gweithredu arnyn nhw, a thrwy’r system addysg mae’r ffordd orau o wneud hyn.”