Bydd ail ysgol gynradd ac uwchradd bob oed yn Sir Drefaldwyn yn dod yn ysgol Gymraeg.

Ond mae pryderon o hyd y bydd angen cyllid ychwanegol a newidiadau i bolisi cludiant yr ysgol er mwyn sicrhau llwyddiant symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion o fod yn ysgol dwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg yn y tymor hir.

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys heddiw (dydd Mawrth, Mai 28), derbyniodd cynghorwyr adroddiad o “wrthwynebiadau” sy’n rhan o’r cam diweddaraf yn y broses gyfreithiol o newid categori’r ysgol.

Cafodd y cyfnod gwrthwynebu ei gynnal rhwng Ebrill 8 a Mai 6.

Roedd y cynnig wedi derbyn 16 o wrthwynebiadau, gyda’r rheiny’n ymwneud â materion oedd wedi cael eu gwrthod un ar y tro yn yr adroddiad.

Pryderon

“Roedd nifer o feysydd yn achosi pryder,” meddai Marianne Evans, y rheolwr trawsnewid ysgolion.

Roedd y rhain yn ymwneud â’r angen i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol wrth iddyn nhw symud o addysg Saesneg i Gymraeg.

Pryder mawr arall gafodd ei fynegi yw argaeledd staff sy’n gallu dysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Eglurodd Marianne Evans fod gweithgorau wedi’u sefydlu i edrych ar y ddau fater, ffyrdd o ddatblygu’r “gefnogaeth angenrheidiol” ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n symud o ysgol Saesneg i ysgol Gymraeg, tra bod prinder athrawon Cymraeg eu hiaith yn broblem genedlaethol.

“Diolch am wrando ar rai o’r pryderon wrth i ni fynd drwy’r broses hon,” meddai’r Cynghorydd Annibynnol Gareth Jones, cynghorydd sir Llanfair Caereinion a llywodraethwr yr ysgol.

Dywedodd eu bod nhw wedi mynd i’r afael â phryderon ynghylch cludiant ysgol a buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen ar adeiladau’r ysgol.

Ond roedd pecyn cyllid wedi’i deilwra ar gyfer yr ysgol roedd e wedi’i grybwyll mewn cyfarfod blaenorol yn mis Mawrth yn dal ar goll.

“Dydy’r pecyn cyllid deng mlynedd arbennig i wneud i hyn weithio ddim i’w weld yma,” meddai.

“Dyma’r dechrau, ac i hyn weithio mae angen arian ychwanegol arnom ar ben y fformiwla cyllido.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd niferoedd (disgyblion) yn gostwng yn y cyfnod trawsnewid cychwynnol; mae angen i ni gael ein gweld yn denu dysgwyr i’r ysgol.

“Hoffwn i gael sicrwydd fod gwaith yn cael ei wneud tu ôl i’r llenni i gefnogi hyn.”

Dywedodd Marianne Evans fod y materion cyllido hyn wedi cael eu codi â Llywodraeth Cymru “o hyd”.

“Dw i’n credu’n grf fod angen cefnogaeth refeniw ochr yn ochr â chyllid cyfalaf; alla i ddim addo pecyn deng mlnedd, ond mae’n rywbeth y byddwn ni’n edrych arno,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, y Democrat Rhyddfrydol a deilydd y portffolio Addysg, ei fod e wedi codi’r mater yng nghyfarfod diweddar Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rhwng penaethiaid addysg yr awdurdod lleol a Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg newydd Llywodraeth Cymru.

Dywed iddo gael “ymateb sy’n cydnabod y materion hyn a bod yna heriau yn yr amgylchfyd ariannol presennol”.

Galw am addysg Gymraeg

“Rydyn ni eisoes wedi dangos ym Mhowys fod yna alw gan rieni Saesneg i’w plant gael y cyfle i fynychu addysg Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Richard Church, yr Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel.

“Dw i’n gweld hynny’n glir iawn fel llywodraethwr yn Ysgol Gymraeg y Trallwng, lle mae’r ysgol honno’n tyfu’n gyflym iawn â phlant o deuluoedd Saesneg eu hiaith.

“Fe wnaethon ni gymryd camau pwysig o ran addysg gynradd ym Mhowys, ond cawson ni sefyllfa yn y pen draw lle, wrth i blant symud ymlaen at addysg uwchradd, dydyn ni ddim wedi gallu darparu cysondeb o ran addysg Gymraeg.

“Gyda’r penderfyniad hwn, byddwn ni’n gallu gwneud hynny.

“Dw i’n credu ei fod yn gam hanesyddol, ac mae’r ffaith ei fod yn digwydd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd ym Meifod yn gyd-ddigwyddiad sydd i’w groesawu’n fawr.”

Cefnogaeth unfrydol

Pleidleisiodd y Cabinet yn unfrydol o blaid y cynnig, fydd yn gweld Ysgol Bro Caereinion yn dod yn ysgol Gymraeg, fesul cam, flwyddyn wrth flwyddyn, gan ddechrau â’r dosbarth Derbyn fis Medi 2025 a Blwyddyn 7 fis Medi 2026.

Bydd camau dros dro hefyd yn galluogi disgyblion ffrwd Saesneg ym mlynyddoedd 4 ac is yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan (Tregynon) i gael cludiant o’u cartrefi i’r ysgol Saesneg agosaf.