Mae digartrefedd, gosod y gyllideb yn wyneb diffyg ariannol cychwynnol o £14m, ac effaith RAAC ymhlith yr “heriau mwyaf” mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi’u hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Daeth y wybodaeth hon i law wrth i Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, gyflwyno’i seithfed adroddiad blynyddol ers dod yn arweinydd.

Siaradodd hi hefyd am “gyfleoedd” yr awdurdod, gan ddisgrifio llu o brosiectau, gweithgareddau a buddsoddiadau llwyddiannus oedd ar y gweill yn 2023-24.

Fis Mawrth, roedd y Cyngor wedi cymeradwyo un o’u “cyllidebau mwyaf heriol”, wrth oresgyn bwlch ariannol cychwynnol o £14m.

“Dyma’r bwlch ariannol mwyaf dw i wedi’i wynebu erioed yn arweinydd, ac roedd yn ganlyniad y toriadau gafodd eu gwneud i gyllidebau dros yr unarddeg o flynyddoedd diwethaf,” meddai wrth iddi gyflwyno’i hadroddiad i gyfarfod Cyngor cyffredinol ddydd Mawrth diwethaf (Mai 21).

Roedd y Cyngor wedi “ceisio dod i gydbwysedd” rhwng toriadau i wasanaethau, cynddu treth y cyngor a defnyddio arian wrth gefn i fantoli’r gyllideb refeniw.

“Ddaru ni ddefnyddio cyllid canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â gwell sefyllfa ariannol na’r disgwyl yn ystod 2023-24 i geisio lleddfu’r effaith ar drigolion,” meddai.

“Mae gosod y gyllideb yn un o’n heriau mwyaf ni; dydy hi byth yn hawdd iawn, gan ein bod ni ond yn wynebu toriadau o hyd.”

Gyda chwyddiant, costau cynyddol, cynyddu’r gofynion ar wasanaethau a disgwyl gostyngiad yn y cyllid gan y Llywodraeth, rhybuddiodd nad “ydym yn rhagweld y bydd pethau’n dod yn haws yn y blynyddoedd i ddod”.

Cymorth

Wrth nodi bod y Cyngor “yn deall fod pobol yn ei chael hi’n anodd”, mae hi’n annog unrhyw un sy’n wynebu anawsterau ariannol i geisio darganfod a ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cymorth cynllun gostyngiad treth y cyngor.

Mae adran dai’r Cyngor hefyd wedi gweld “un o’r blynyddoedd mwyaf heriol erioed”, meddai wrth y cyfarfod.

“Roedd cynifer o bobol yn cyflwyno’u hunain yn ddigartref, fel bod rhaid i’r tîm tai addasu a newid eu ffyrdd o weithio,” meddai.

Roedd data’r gwasanaeth tai, gafodd ei rannu yn ei hadroddiad, yn dangos bod 790 o aelwydydd wedi cysylltu â’r Cyngor gan eu bod nhw “mewn perygl o ddod yn ddigartref”.

“Roedd tua 101 o aelwydydd mewn llety brys neu dros dro un wythnos ym mis Mawrth,” medd yr adroddiad.

Ond roedd y Cyngor wedi buddsoddi £8m er mwyn gwella’u stoc dai, gan gynnwys mesurau i’w gwneud yn fwy ynni-effeithlon.

Roedd fflatiau wedi cael eu datblygu ym Miwmares, a 77 o eiddo gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd.

Roedd pedwar teulu hefyd wedi cael eu hailymgartrefu o dan y cynllun ARAP.

Cynllun Prynu Cartref Môn

Roedd Cynllun Prynu Cartref Môn hefyd yn “defnyddio” £390,000 o incwm gafodd ei gynhyrchu drwy’r premiwm ail gartrefi i helpu trigolion lleol i brynu eu cartref cyntaf.

Roedd awdurdodau lleol wedi cael pwerau i godi Premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor.

Roedd y Cyngor “wedi gwneud y defnydd gorau posib” o’r premiwm a chyllid gan Lywodraeth Cymru, meddai.

Roedden nhw wedi neilltuo bron i £1.5m tuag at gynlluniau trwy’r gronfa premiwm ail gartrefi, gan helpu i ddiwallu’r angen lleol am dai a helpu prynwyr tro cyntaf.

Roedd y Cynllun Prynu Cartref “wedi adeiladu ar y llwyddiant yma”, gan ddarparu cefnogaeth ychwanegol i drigolion â benthyciadau ecwiti.

Roedd Premiwm Treth y Cyngor wedi cynnig “cyfle unigryw i ymateb i’r argyfwng tai presennol”, medd ei hadroddiad.

“Rydym yn anelu i gefnogi pobol leol fel y gallan nhw fyw mewn tai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain,” meddai.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw rhywle’n gartref.”

RAAC

Mae ysgolion uwchradd Caergybi a David Hughes hefyd wedi wynebu “cyfnod heriol” yn ystod yr argyfwng concrid RAAC, yn dilyn newidiadau i’r ddeddfwriaeth.

Cafodd cannoedd o ysgolion ledled y wlad eu gorfodi i gau’n llawn neu’n rhannol ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod ganddyn nhw goncrid RAAC, sydd mewn perygl o ddymchwel ar ôl 30 mlynedd.

Dywed Llinos Medi fod gwasanaethau’r Cyngor “wedi cydweithio’n effeithlon” er mwyn sicrhau bod addysg yn parhau i gael ei chynnig a bod ysgolion yn parhau i gael eu hailagor yn ddiogel yn dilyn gwaith atgyweirio “brys”.

Diolchodd i benaethiaid, staff, disgyblion a theuluoedd am gydweithio â’r awdurdod “yn ystod cyfnod anodd iawn”.

Diolchodd hefyd i gymunedau, timau mewnol, busnesau lleol a Llywodraeth Cymru am eu “cefnogaeth a’u hymateb cyflym”.

Uchafbwyntiau eraill

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill dros y flwyddyn roedd datblygiad “cyffrous” yr ysgol newydd, Ysgol Corn Hir.

Roedd yr ynys hefyd wedi derbyn proffil “rhagorol” gan Estyn.

Roedd grantiau gwerth £400,000 gan Chwaraeon Cymru hefyd wedi helpu i foderneiddio dau gae amlbwrpas yn Ysgol Uwchradd Bodedern.

Roedd archifau’r ynys wedi cael eu hachredu unwaith eto, a llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio fwyfwy, gyda mwy o ymwelwyr hefyd ag Oriel Llangefni.

Ym maes gofal cymdeithasol, cafodd tair uned Cartrefi Clyd eraill eu datblygu, gan ddarparu cartrefi i hyd at chwech o “blant mewn gofal”, a chafodd Dementia Actif Môn wahoddiad i siarad am eu gwaith ledled Cymru.

Mae Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn 2023-28 hefyd wedi’i ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Roedd gwerth £16m o gyllid SPF Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i ddyrannu i brosiectau cymunedol.

Roedd gwaith Codi’r Gwastad ar y gweill i wario’r buddsoddiad o £22.5m yng Nghaergybi, gan drawsnewid canol y dref, ehangu Canolfan y Celfydddau Ucheldre, datblygu 9 Stryd Stanley â Môn CF i annog busnes.

Roedd gwaith y Cyngor Tref hefyd yn “trawsnewid” ciosgau Traeth y Newry, i werthu bwyd a diod ac i gynnig gwybodaeth i ymwelwr.

Arfor a’r Gymraeg

Roedd ail gam prosiect Arfor, gafodd ei sefydlu â chronfa werth £1m ar gyfer mentrau sy’n cefnogi’r Gymraeg a’r economi.

Roedd sylw wedi’i roi hefyd i waith y Cyngor mewn digwyddiadau cenedlaethol, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Wrth roi hwb i’r economi, roedd ehangu ystad ddiwydiannol Penrhos hefyd wedi trawsnewid hen safle gwag yn barc busnes.

Roedd prosiect mwya’r Cyngor yn ymwneud â phorthladd rhydd Caergybi, ac mae’r arweinydd Llinos Medi yn falch fod hwnnw’n cael ei arwain gan swyddogion yn yr awdurdod.

Roedd y Cyngor hefyd wedi croesawu cynlluniau Wylfa, a Phwyllgor Gwaith y Cyngor hefyd wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i drydedd Bont y Borth, gan barhau i alw am honno.

Roedd llais Ynys Môn i’w glywed yn gynyddol hefyd “ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol”, meddai’r arweinydd.