Mae Jonathan Edwards, aelod seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi cyhoeddi na fydd e’n sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol.

Bu’r cyn-aelod seneddol Plaid Cymru’n annibynnol ers cael ei arestio a derbyn rhybudd am ymosod ar ei wraig.

Roedd wedi bod yn ystyried sefyll yn erbyn Plaid Cymru, ond mae bellach wedi cyhoeddi na fydd yn gwneud hynny.

Mewn neges ar ei dudalen Facebook, dywed ei fod yn “dymuno’r gorau i’w olynydd”, ac nad yw’n “gallu aros i fod adref”.

Dywed ei fod yn “diolch i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad” i’w annog i sefyll.

Cefndir

Cafodd Jonathan Edwards ei ddiarddel o Blaid Cymru yn dilyn digwyddiad yn ei gartref fis Mai 2020.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei wraig Emma, ac fe dderbyniodd e rybudd gan gydnabod ei fod yn euog.

Cafodd e ddychwelyd i Blaid Cymru’n ddiweddarach, a chafodd y blaid eu beirniadu gan ei gyn-wraig.

Mae Jonathan Edwards wedi cyhuddo Plaid Cymru o geisio’i ddinistrio, gan ychwanegu ei fod wedi “ymddiried ym mhrosesau’r blaid”.

Datganiad

“Ers i’r etholiad cyffredinol gael ei alw’r wythnos ddiwethaf, dw i wedi cymryd yr amser i ystyried a fyddwn i’n cyflwyno fy enw,” meddai Jonathan Edwards mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu i’m hannog i wneud, fodd bynnag ar ôl ystyried yn ddwys, dw i wedi penderfynu ei bod hi’n bryd i mi gamu i ffwrdd o San Steffan.”

Bydd rhan helaeth o’i etholaeth bresennol yn cael ei hamsugno gan sedd newydd Caerfyrddin.

Ann Davies fydd yn brwydro’r etholiad yn enw Plaid Cymru, tra bo disgwyl i Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Cymru, sefyll dros y Ceidwadwyr.

Martha O’Neil yw ymgeisydd Llafur.

Senedd Cymru nesaf?

“Fel un sy’n edmygu cyfraniad mawr Jonathan Edwards i Gymru a Phlaid Cymru, rwy’n mawr obeithio na fydd yn sefyll yn erbyn y Blaid yn yr etholiad hwn,” meddai Dafydd Iwan, cyn-Lywydd Plaid Cymru, cyn i Jonathan Edwards gyhoeddi ei fwriad.

“Gall wedyn ddal ei ben yn uchel, a dychwelyd i wleidyddiaeth os mynn yn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.”