Mae Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf.

Daw’r penderfyniad ar ôl 23 o flynyddoedd yn y swydd, er ei fod e wedi bwriadu sefyll am seithfed tymor yn San Steffan yn wreiddiol.

Mae hefyd yn llefarydd dioddefwyr a dedfrydu ei blaid.

Cafodd e driniaeth am ganser y prostad ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n dweud iddo benderfynu camu o’r neilltu ar ôl sgwrsio â’i deulu gan fod ganddo amheuon a ddylai barhau neu beidio.

Mewn neges ar X (Twitter gynt), mae e wedi diolch i aelodau Llafur yn ei etholaeth ac i’w etholwr am eu “cyfeillgarwch a chefnogaeth”.

Dywed fod swydd aelod seneddol yn “hynod werthfawr” ond yn “heriol iawn i’r unigolyn a’i anwyliaid”, ond dywed hefyd iddo fwynhau’r “dwyster a’r her”.

Mae e wedi datgan ei gefnogaeth i Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, er iddo fe gefnogi Lisa Nandy yn y ras arweinyddol ddiwethaf.

Gyrfa

Cafodd Kevin Brennan ei ethol i Dŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf yn 2001.

Bu’n chwip ac yn weinidog yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown.

Mae ei etholaeth bellach wedi newid o ganlyniad i adolygiad o ffiniau etholaethau, wrth i Gymru golli wyth aelod seneddol – i lawr o 40 i 32.

Y tu hwnt i wleidyddiaeth, mae Kevin Brennan yn gitarydd gyda’r band MP4, sy’n gyfuniad o bedwar aelod seneddol o bleidiau amrywiol – Ian Cawsey (Llafur), Pete Wishart (SNP) a Greg Knight (Ceidwadwyr) yw’r tri arall.

Yn 2021, bu’n rhan allweddol o’r ymgyrch i newid cyfreithiau hawlfraint ffrydio cerddoriaeth er mwyn sicrhau taliadau teg i gerddorion, ac hefyd yn rhan o’r ymgyrch i ddiogelu dyfodol lleoliadau cerddorol gyda chefnogaeth Jo Stevens, aelod seneddol Canol Caerdydd.

Roedd e hefyd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac fe gafodd ei ddiswyddo yn 2017 am anwybyddu’r chwip er mwyn pleidleisio yn erbyn y bil arweiniodd at Brexit, gan alw am refferendwm o’r newydd yn ddiweddarach.