Ddiwedd mis Tachwedd 1864, ymosododd byddin o bron i 700 o filwyr y Third Colorado Cavalry, dan arweiniad y Parchedig John Chivington, ar wersyll o frodorion heddychlon (o lwythau’r Cheyenne a’r Arapaho). Roedd arweinydd y brodorion, y pennaeth Black Kettle, wedi’i gyfarwyddo gan y fyddin i wersylla yng nghilfach Sand Creek, gyda’r addewid y bydden nhw yn ddiogel yno. Fe’i cyfarwyddwyd i gyhwfan baner yr Unol Daleithiau a baner wen uwchben ei babell.
Gan anwybyddu’r ffaith mai gwersyll noddfa oedd y gwersyll, a’r ffaith fod mwyafrif y dynion i ffwrdd yn hela, ymosododd Chivington gan ladd o leiaf 150 o bobol, y mwyafrif ohonyn nhw’n wragedd a phlant.
Roedd y gyflafan yn benllanw ymgyrch yn erbyn y brodorion lleol gan Lywodraethwr Colorado, John Evans (o dras Cymreig). Er iddo geisio gwadu ar y pryd nad oedd yn ymwybodol o’r cynllunio ar gyfer yr ymosodiad penodol hwn, daeth ymchwiliad swyddogol i’r casgliad ei fod wedi gweithredu’n dwyllodrus ac wedi ceisio celu’r gwirionedd am ei ymddygiad tuag at y brodorion. (Wedi’r cyfan, roedd o wedi anrhydeddu Chivington am ei ‘wroldeb’). Yn y pen draw bu’n rhaid iddo ymddiswyddo a bu’r achos yn ddiwedd ar ei yrfa wleidyddol.
Wnaeth John Evans erioed ddifaru am ei rôl yn y glanhau ethnig ddigwyddodd yn Colorado. “The benefit to Colorado, of that massacre, as they call it, was very great,” meddai mewn cyfweliad ym 1884, “for it ridded the plains of the Indians.”
Er mai’r gyflafan hon oedd yr un enwocaf, o bosib, ddigwyddodd yn ystod ymgyrch yr ymsefydlwyr gwynion i lanhau’r wlad o’r brodorion, parhaodd y brywdrau tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (a thu hwnt). Un o’r rhyfeloedd olaf oedd yr un rhwng llwyth yr Apache o dan arweinyddiaeth Geronimo. Oherwydd ffyrnigrwydd y brwydro daeth y syniad o’r Apache fel y llwyth brodorol mwyaf barbaraidd yn rhan o chwedloniaeth yr Unol Daleithiau.
Tua diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, tra’n cyfeirio at fwriadau’r Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol ar ôl y rhyfel hwnnw, gwnaeth yr arlywydd Woodrow Wilson (Cristion ceidwadol a dyn eithriadol o hiliol) y sylw canlynol; sylw wnaeth osod seiliau agwedd yr Unol Daleithiau tuag at ‘frodorion’ anwaraidd tiriogaeth Palesteina hyd y dydd heddiw.
“When the war will be ended, there are two lands that will never go back to the Mohanmmedan apache. One is Christian Armenia and the other is Jewish Palestine.“
A dyma ni, dros gant a hanner o flynyddoedd ers Sand Creek, ac mae’r Unol Daleithiau, trwy ei chefnogaeth filwrol i Israel, gwlad o ymsefydlwyr tebyg iawn i goloneiddwyr hanesyddol yr Unol Daleithiau, yn dal i hyrwyddo glanhau ethnig ac yn dal i ganiatáu lladd plant mewn pebyll.
Pan ddigwyddodd Cyflafan Sand Creek, doedd yna ddim camerâu teledu na TikTok i gofnodi’r lladdfa, ond rydym oll bellach yn medru gweld y bomio didrugaredd a’r cyrff yn pentyrru mewn amser real. Sut yn y byd felly y gall pobol edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn Gaza a chredu, rywsut, nad oes hil-laddiad yn digwydd yno?
https://th.bing.com/th/id/OIF.fj9qOO09PNhnF8VJpilLCg?rs=1&pid=ImgDetMain