Mae diffyg gwasanaethau deintyddol yn gwneud Cymru’n “anialwch”, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Yn ôl ffigurau diweddaraf Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae 4,295 o oedolion yn aros i weld deintydd ar hyn o bryd.
Mae’r ffigwr mor uchel â 15,500 yng Nghaerdydd a’r Fro.
Mae’r blaid yn galw ar bleidleiswyr yng Nghymru i anfon “neges bwerus” at Lywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig pan ddaw i’r orsaf bleidleisio.
Datrysiad
Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae modd datrys y sefyllfa drwy sicrhau bod mwy o ddeintyddion yn cael eu recriwtio a’u cadw mewn swyddi, a rhoi mwy o gefnogaeth i wasanaethau lleol.
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae ei phlaid wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Lafur Cymru’n cyflwyno system rhestr aros genedlaethol sy’n galluogi byrddau iechyd i sicrhau bod deintydd ar gael i bob claf yn gynt.
Fe fu’r blaid yn galw am system o’r fath ers tro.
“Mewn gwirionedd, mae diffyg argaeledd deintyddion wedi troi rhannau o Gymru’n anialwch deintyddol,” meddai Jane Dodds.
“Mae pobol yng Nghymru’n despret wrth geisio cael mynediad at ddeintydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda thros 4,000 o oedolion yn dal i aros am fynediad at ofal ym Mhowys wledig, a hyd yn oed mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd mae miloedd yn aros ar rhestrau.
“Bydd yr etholiad yn rhoi’r cyfle i bleidleiswyr yma yng Nghymru i anfon neges bwerus at y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn Llundain, gyda’r ddwy wedi methu’n lân â mynd i’r afael â’r mater hwn.
“Rydyn ni eisiau rhoi terfyn ar y diffyg gwasanaethau drwy gymryd camau uniongyrchol i ddatrys yr argyfwng hwn, drwy recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion a buddsoddi mewn gwasanaethau lleol.
“Fel plaid, rydyn ni eisoes wedi gwthio’n llwyddiannus am system rhestr aros genedlaethol, fydd yn galluogi byrddau iechyd i roi deintydd i glaf yn gynt.
“Cyflwyno rhestr aros genedlaethol yw’r cam cyntaf yn unig ar ein taith tuag at gyflwyno gwasanaeth deintyddol gwell i bobol Cymru.”