Mae Plaid Cymru wedi cael dihangfa ffodus wrth gefnu ar ei chytundeb â Llafur – ar ôl llwyddo i wneud hynny o fewn y dim cyn iddi fod yn rhy hwyr.
Wythnos yn ôl, pan oedd helyntion Vaughan Gething yn mynd o ddrwg i waeth o ddydd i ddydd, roedd cyhoeddiad Plaid Cymru fod y cytundeb yn dod i ben yn ymddangos fel amseru da ar ei rhan. Er y byddai rhai wedi dymuno ei gweld yn gwneud hynny cyn gynted ag y cafodd Vaughan Gething ei ‘ethol’ yn arweinydd, roedd yn ymddangos fod oedi rhywfaint wedi helpu ei galluogi i daro ar yr adeg iawn.
Yr hyn a ddeellir yw bod Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan wedi bod yn pwyso am gefnu ar y cytundeb â Llafur, ond bod rhai Aelodau o Senedd Cymru yn fwy cyndyn o wneud hynny. Yn ôl ffynonellau, y gyfaddawd y cytunwyd arni yn wreiddiol oedd y byddai’r cytundeb yn cael ei ddiddymu ar ddiwedd y tymor seneddol, sef cyn toriad yr haf. Yn y pen draw, arweiniodd trafferthion Vaughan Gething at weithredu’n gynharach na’r disgwyl ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Pe baen nhw wedi aros ddyddiau’n rhagor, mi fydden nhw wedi gorfod ymladd yr etholiad efo’r cytundeb â Llafur yn faen melin am eu gwddw. A hynny pan fo Llafur Cymru yn hynod o amhoblogaidd yng nghefn gwlad, yn yr unig etholaethau lle mae Plaid Cymru yn gystadleuol. Go brin y byddai unrhyw hygrededd i gefnu ar y cytundeb ar ôl i’r etholiad gael ei alw.
Gall llwyddo i weithredu ar yr unfed awr ar ddeg fel hyn olygu gwahaniaeth sylweddol yn rhagolygon Plaid Cymru yn yr etholiad – rhwng bod yn lwcus o gadw dwy sedd i’r posibilrwydd o ennill pedair.
Gwaredigaeth dros dro
Ar yr olwg gyntaf, mae penderfyniad Rishi Sunak i gynnal etholiad cyffredinol ddechrau mis Gorffennaf yn newyddion da i Brif Weinidog Cymru. Mae’n golygu y bydd ei blaid yn osgoi brwydrau mewnol am y tro, a hefyd fod y stori wleidyddol fawr yn tynnu sylw oddi wrth ei gamweddau ar hyn o bryd.
Roedd yn amlwg fod ei drafferthion yn gwaethygu o ddydd i ddydd erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r cyfraniad o £200,000 a gafodd gan droseddwr amgylcheddol ddod yn fwyfwy gwenwynig i’w blaid. Cyhoeddodd y Blaid Lafur Brydeinig na fydden nhw’n derbyn y £30,000 oedd yn weddill o’r arian ac y byddai’n gael ei gyfrannu yn lle hynny at achosion da.
Mae’n anodd gweld faint o glod oedden nhw’n ei ddisgwyl am eu haelioni yn hyn o beth – cwestiwn llawer pwysicach fyddai ar beth roedd Vaughan Gething wedi gwario’r £170,000 arall.
Crafu gwaelod y gasgen
Arwydd clir arall o faint trafferthion Vaughan Gething oedd y ffordd roedd ei gefnogwyr yn crafu gwaelod y gasgen i’w amddiffyn. Unwaith eto, gwelwyd y Blaid Lafur yn ymostwng i wneud cyhuddiadau cwbl ddi-sail o hiliaeth fel maen nhw wedi’i wneud sawl gwaith o’r blaen pan maen nhw’n teimlo o dan fygythiad.
Eu honiad oedd mai rhagfarn hiliol oedd y tu ôl i’r ymosodiadau yn erbyn Vaughan Gething. Gan nad oedd dim oll sy’n ymylu ar unrhyw fath o dystiolaeth o hyn, roedd yn rhaid troi at y cyhuddiad lled-ddiystyr o ‘ragfarn ddiarwybod’ (unconscious bias) – sy’n gysyniad pur amheus ar y gorau.
Yn wir, roedden nhw’n mynd cyn belled â honni bod safonau a disgwyliadau uwch yn cael eu gosod ar Vaughan Gething oherwydd ei fod yn ddu.
Mae angen taro’n ôl yn galed yn erbyn honiadau o’r fath. Y ffaith amdani ydi mai nhw sy’n arddangos agwedd nawddoglyd a dirmygus at bobol groenddu wrth wneud sylwadau mor sarhaus.
O ddadansoddi’r hyn maen nhw’n ei ddweud, mae’n gyfystyr â honni ei bod yn fwy anodd i ddyn du ddeall nad ydi derbyn arian mawr gan droseddwr amgylcheddol – neu unrhyw droseddwr arall – yn ymddygiad derbyniol. Neu nad ydi hi mor hawdd iddo lawn amgyffred y cysyniad y dylai pob ymgeisydd gael yr un cyfle am wrandawiad teg i gyflwyno’i neges i aelodau ei blaid ac aelodau undebau.
Yr hyn maen nhw’n ei wneud ydi defnyddio lliw croen Vaughan Gething fel arf i amddiffyn un sydd wedi dangos y bydd yn was ufudd iddyn nhw. Ond wrth gwrs, efallai mai eu ‘rhagfarn ddiarwybod’ sy’n gyfrifol am hyn.
Arf yn erbyn Llafur
Mae elfennau o ymddygiad Vaughan Gething wedi bod mor amlwg annerbyniol nes ei bod yn hollol deg fod hyn yn cael ei ddefnyddio fel arf yn erbyn y Blaid Lafur yn yr etholiad.
Os bydd Plaid Cymru a’r Torïaid yn llwyddo i ddefnyddio’r ffaeleddau hyn i’w mantais dros yr wythnosau nesaf, gallai olygu trafferthion iddo. Gallwn fod yn sicr y bydd Llafur ymhell ar y blaen i’r pleidiau eraill yn yr etholiad. Ond pe bai yn ennill llai o dir yng Nghymru nag yn Lloegr a’r Alban, mae’n debygol iawn y bydd Vaughan Gething yn cael llawer o’r bai.
Gall yr etholiad felly fod yn allweddol i ddyfodol Vaughan Gething fel prif weinidog.
Mae Plaid Cymru eisoes wedi cydnabod y bydd yr etholiad yn un anodd iddi yn sgil y pegynnu rhwng Llafur a’r Torïaid ar lefel Brydeinig. Yr unig ffordd y gall wrthsefyll hynny fydd gwneud ei gorau i sicrhau bod pynciau Cymreig yn cael mwy o sylw, ac mae ymddygiad Vaughan Gething dros yr wythnosau diwethaf yn rhoi cyfle ar blât iddi. Un ffordd sicr o droi sylw’r etholiad at faterion yn ymwneud â Chymru fydd manteisio i’r eithaf ar drafferthion diweddar Vaughan Gething.
Mae’n wir mai mater cymharol ymylol i lawer o bobol fydd y ffordd y derbyniodd arian mawr ar gyfer ei ymgyrch gan droseddwr. Ar y llaw arall, mae’n rhoi cyfle i bleidiau eraill greu delwedd o lygredd o fewn y sefydliad Llafur yng Nghymru, a ffolineb llwyr fyddai i Blaid Cymru beidio â manteisio ar hynny ar bob cyfle a gaiff. Mae hefyd yn un o’r ychydig elfennau sy’n ymwneud â Llafur Cymru y gall Plaid Cymru olchi ei dwylo yn llwyr ohono.
Bydd ei siawns o lwyddo yn y pedair sedd lle mae hi yn y ras yn dibynnu ar ei gallu i fanteisio ar y bleidlais wrth-Lafur yn yr etholaethau hynny. Ac ar annog y cyhoedd i ddefnyddio’r cyfle i fynegi eu barn ar addasrwydd Vaughan Gething i fod yn brif weinidog.
Troi sylw at Gymru
Nid tasg hawdd, wrth gwrs, fydd cyfeirio sylw etholiad Prydeinig at faterion sy’n ymwneud â Chymru’n bennaf. Er hynny, un peth a all fod o help anuniongyrchol i Blaid Cymru yn yr etholiad ydi y bydd y Torïaid hefyd yn benderfynol o ddefnyddio Llywodraeth Cymru fel ffordd o ymosod ar Lafur. Yn eironig, po fwyaf o sylw a fydd yn cael ei roi i faterion Cymreig, y mwyaf manteisiol y gall fod i’r Torïaid hefyd, gan y gallan nhw ddarlunio eu hunain fel gwrthblaid yn hytrach nag fel y sefydliad sy’n bennaf gyfrifol am y llanast rydan ni ynddo. Gallai hyn fod yn ddigon i’w galluogi i ddal gafael ar un neu ddwy sedd ymylol na fydden nhw’n llwyddo’i wneud fel arall.
Er mor wahanol ydi gwerthoedd a safbwyntiau Plaid Cymru a’r Torïaid, mae ganddyn nhw fuddiannau cyffredin o ran eu hangen i amlygu ffaeleddau prif weinidog Llafur yng Nghymru. Yr hyn sy’n fwy eirionig ydi y bydd gwrthwynebwyr Vaughan Gething o fewn y Blaid Lafur hefyd yn dibynnu ar berfformiad llai na disglair gan eu plaid yn yr etholiad. Eu gobaith gorau o gael gwared arno fydd gweld ychydig mwy na’r disgwyl o lwyddiannau i Blaid Cymru a’r Torïaid. Un o’r etholaethau lle gall fod brwydr allweddol rhwng Llafur a Phlaid Cymru fydd Caerfyrddin. Gallwn fod yn sicr y bydd rhai o wleidyddion amlycaf Llafur Cymru yn llawenhau os bydd Plaid Cymru’n dathlu buddugoliaeth yno yn oriau mân fore Gwener, Gorffennaf 5.