Mae ymgyrchwyr wedi ymgasglu yn Nulyn i dynnu sylw at argyfwng tai’r Gaeltacht, neu gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg yn Iwerddon.

Roedd nifer o grwpiau cymunedol yn rhan o’r digwyddiad, gan gynnwys Conradh na Gaeilge, an Meitheal Náisiúnta Pleanála Teanga, BÁNÚ, An Dream Dearg, Undeb Myfyrwr Iwerddon, Undeb Myfyrwyr Ail Lefel Gwyddeleg a CATU Iwerddon.

Maen nhw’n anhapus â’r oedi parhaus wrth i’r Adran Dai ac Adran y Gaeltacht fynd i’r afael â Chanllawiau Cynllunio’r Gaeltacht.

Maen nhw’n galw am gamau brys ar nifer o faterion pwysig, sef:

  • cyhoeddi Canllawiau Cynllunio Drafft y Gaeltacht, gafodd ei addo yn 2021, ar unwaith
  • rhoi swyddogaethau clir i awdurdod Údarás na Gaeltachta mewn perthynas â deddfwriaeth tai
  • cryfhau’r Bil Cynllunio a Datblygu fel bod pob awdurdod lleol yn gorfod llunio Cynllun Tai a Phoblogaeth ar gyfer pob Ardal Cynllunio Iaith, fel bod rhuglder iaith yn ystyriaeth wrth ddiwallu’r angen am dai lleol, a bod y broses cynllunio ieithyddol yn rhan annatod o’r Bil

Dyfodol yr iaith

“Fydd yr iaith Wyddeleg ddim yn goroesi heb gymuned hyfyw a chynaliadwy o siaradwyr,” meddai Dónall Ó Cnáimhsí, llefarydd ar ran Meitheal Náisiúnta Pleanála Teanga.

“Mae’r diffyg tai ar gyfer pobol ifanc yn fygythiad dirfodol i’r Gaeltacht.

“Nid diffyg datblygu, diffyg cyfleoedd na diffyg cyflogaeth sydd wedi achosi’r argyfwng yma, ond diffyg tai.”

Yn ôl Róisín Ní Chinnéide, llefarydd ar ran Meitheal Náisiúnta Pleanála Teanga, mae’r oedi cyn cyhoeddi’r canllawiau yn “warthus”.

“Yn aml iawn, caiff cwestiynau am yr iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht eu symud i waelod agenda’r llywodraeth,” meddai, gan ddweud bod angen i wleidyddion ddangos ewyllys.

“Mae polisïau tai’r llywodraeth yn cael effaith negyddol ddifrifol ar yr iaith Wyddeleg yn ardaloedd y Gaeltacht.

“Mae’n hen bryd i’r arferion hyn newid.

“Rydyn ni wedi cael llond bol o aros i weinidogion, aros am ymrwymiadau ac aros am weithgarwch.

“Rydyn ni wedi anfon neges glir, a byddwn ni’n gweiddi’n groch hyd nes bod datrysiad yn cael ei ddarparu i fynd i’r afael ag argyfwng tai ein hoes.”