Wrth gyflwyno galwad ‘Deddf Eiddo: Dim Llai’ Cymdeithas yr Iaith i swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mercher, Mai 29), dywedodd Ffred Ffransis y “dylai cartrefi ac addysg gael eu trefnu yn ôl angen, nid yn ôl faint o gyfoeth sydd gennych chi”.
Dywedodd fod hon yn “frwydr am gyfiawnder”.
Cafodd yr alwad ei chyflwyno yn dilyn digwyddiad ar stondin Llywodraeth Cymru i ddathlu dengmlwyddiant y Siarter Iaith.
Er bod llwyddiannau’r Siarter i’w canmol, yn ôl y Gymdeithas, “mae’r argyfwng tai a dinistr y farchnad agored yn bygwth tanseilio’r gwaith da hynny, yn hytrach nag adeiladu arno”.
Papur Gwyn a gorymdaith
Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyflwyno Papur Gwyn ar yr hawl i dai digonol cyn diwedd tymor haf y Senedd ar Orffennaf 19.
Ond pryder Cymdeithas yr Iaith yw na fydd yn cynnwys mesurau digon radical i leddfu’r argyfwng tai, ac na fydd yn arwain at ddeddfwriaeth yn y tymor Seneddol hwn.
Ddechrau’r mis, roedd gorymdaith yn cynnwys Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon; Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; Craig ap Iago, Cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, a llu o arweinwyr lleol eraill gerbron cannoedd o gefnogwyr yn galw ar y Llywodraeth i fabwysiadu Deddf Eiddo i sicrhau hawliau i dai digonol ac i gynnal cymunedau Cymraeg.
Yr alwad
“Galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i greu marchnad dai addas at anghenion Cymru, ac i rymuso’n cymunedau lleol,” medd yr alwad.
“Ni all ein cymunedau aros rhagor – mae’n bryd gweithredu.”
Mewn datganiad, dywed Ffred Ffransis mai nod Cymdeithas yr Iaith wrth gyflwyno’r alwad yw “pwysleisio y bydd llwyddiant mentrau fel y Siarter Iaith yn cael ei danseilio os bydd ein pobol ifanc yn gorfod ymadael â’u cymunedau o fethu cael cartrefi”.
“Rhaid i’r Llywodraeth alluogi iddynt greu dyfodol yn eu cymunedau trwy gatrefi fforddiadwy,” meddai.
“Pryder Cymdeithas yr Iaith yw na bydd Papur Gwyn y LLywodraeth ar Dai a gyhoeddir yr haf hwn yn cynnig deddfwriaeth i reoli’r farchnad agored mewn tai fel y gall pobol ifanc fforddio cael cartrefi yn eu cymunedau.
“Mae dros 1,000 wedi llofnodi ein galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai”, sy’n dangos ei fod yn fater brys sydd angen ei ddatrys, ac rydym yn disgwyl i’r Llywodraeth weithredu.”
‘Brwydr dros y Gymraeg wastad dros fwy o gyfiawnder’
Wrth siarad â golwg360, dywed Ffred Ffransis fod “brwydr dros y Gymraeg wastad dros fwy o gyfiawnder”.
“Mae gan Meinir a finnau ddeunaw o wyrion,” meddai.
“Dw i ddim yn gwybod sut maen nhw’n mynd i allu rhentu neu brynu tŷ.
“Mae o tu hwnt i bosibiliadau pobol erbyn hyn, felly rydym yma iddyn nhw.
“Mae o’n rhan o rywbeth mwy.
“Mae’r frwydr dros y Gymraeg wastad dros fwy o gyfiawnder.
“Dylai cartrefi ac addysg gael eu trefnu yn ôl angen, nid yn ôl faint o gyfoeth sydd gennych chi, felly mae o’n frwydr am gyfiawnder.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym yn credu dylai pawb cael mynediad i gartref gweddus a fforddiadwy i brynu neu rentu yn eu cymunedau eu hunain fel eu bod yn gallu byw a gweithio yn lleol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio systemau cynllunio, eiddo, a threthiant i wneud hyn fel rhan o becyn o atebion sydd wedi ymuno i fyny i fynd i’r afael â set gymhleth o broblemau.
“Mi fyddan ni yn ymgynghori ar Bapur Gwyn yn hwyrach y flwyddyn yma ar gynigion i ddarparu tai digonol, prisiau rhentu tecach, ac ymagwedd wahanol i greu tai fforddiadwy i rai ar incwm lleol.”