Mae pleidlais dros Blaid Cymru yn “hanfodol” i wadu lle i’r Ceidwadwyr yng Nghymru, ac i ddal Llafur i gyfrif, yn ôl eu harweinydd Rhun ap Iorwerth.

Daw ei sylwadau wrth i’r Blaid lansio’u hymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Wrth siarad cyn rali etholiadol ym Mangor, dywedodd fod Plaid Cymru yn mynd â’r frwydr i’r Ceidwadwyr a Llafur ym mhob rhan o Gymru, a’u bod nhw mewn “sefyllfa arbennig” i ddadorseddu Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol presennol Ynys Môn, ac yn y sefyllfa orau i gynrychioli pobol Caerfyrddin, lle mae Ann Davies yn sefyll.

Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n “rhoi buddiannau Cymru o flaen buddiannau pleidiol”, medd Rhun ap Iorwerth.

Mae’n dadlau y byddai “Cymru decach, fwy uchelgeisiol” yn cael ei gwireddu trwy sicrhau mai lleisiau Plaid Cymru sy’n cyflwyno’r achos dros Gymru yn San Steffan.

‘Llond bol’

“Mae’n amlwg bod pobol ledled Cymru wedi cael llond bol ar y llywodraeth Geidwadol drychinebus a dinistriol hon,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae pleidleisio dros y Blaid mewn etholaethau fel Ynys Môn yn hanfodol er mwyn cadw’r Torïaid draw o San Steffan ac allan o Gymru.

“Fel y dangosodd polau piniwn diweddar ac Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai, mae Llinos Medi o Blaid Cymru mewn sefyllfa ffafriol i gipio’r sedd rhag yr Aelod Seneddol Torïaidd presennol, gan roi llais lleol ffres i etholwyr yn San Steffan.

“Ar yr un pryd, mae pleidleisio dros Blaid Cymru yng Nghaerfyrddin a Bangor Aberconwy yn dal Llafur i gyfrif hefyd.

“Gydag ymgeiswyr fel Ann Davies yng Nghaerfyrddin, Plaid Cymru sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli ein cymunedau yn effeithiol a chynnig dewis amgen cadarnhaol i Lafur a’r Torïaid.

“Mae neges bositif Plaid Cymru o Gymru decach, fwy uchelgeisiol, yn dangos mai ni yw’r unig blaid sy’n rhoi buddiannau’r genedl o flaen buddiannau pleidiol.

“Mewn cyferbyniad llwyr, mae ymgyrch Llafur eisoes wedi diystyru cyllid tecach i Gymru.

“Maen nhw’n fodlon ein gweld ni ynghlwm â senedd San Steffan sy’n dal Cymru yn ôl.

“Nid yw’r etholiad hwn yn ymwneud yn unig â phwy sydd â’r allweddi i 10 Downing Street.

“Mae hefyd yn ymwneud â phwy sy’n cynrychioli eich stryd, eich cymuned, a buddiannau eich gwlad o ddydd i ddydd.”