Mae nifer o ddatblygiadau arloesol, gan gynnwys prawf gwaed ar gyfer Sglerosis Ymledol,  y cyntaf o’i fath yn y byd, wedi sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd yr Economi, wedi cyhoeddi cyllid gwerth £900,000 ar gyfer pum prosiect sy’n addo darparu buddion meddygol gwirioneddol drwy dechnoleg gwyddorau bywyd o’r radd flaenaf.

Mae Zoobiotic Limited o Ben-y-bont ar Ogwr yn datblygu cynnyrch o secretiadau larfa, sy’n cyflymu gwaredu meinwe croen marw neu wedi’i heintio i helpu i wella clwyfau.

Gan ddefnyddio dull gwahanol, mae Corryn Biotechnologies yn Abertawe yn gweithio ar ddyfais llaw meddygol all osod haen o ffibrau polymer microsgopig dros glwyf, gan greu gorchudd yn defnyddio technoleg nyddu electronig.

Sglerosis Ymledol a chyflyrau eraill

Mae heddiw (dydd Iau, Mai 30) yn Ddiwrnod MS y Byd, ac un o’r prosiectau arloesol sy’n cael eu cyhoeddi yw datblygu profion Cell T, sy’n cael eu defnyddio mewn diagnosteg a meddygaeth fanwl.

Bydd technoleg Immunoserv yn brawf gwaed diagnostig gafodd ei ddatblygu yng Nghaerdydd, wedi’i ddilysu’n glinigol ar gyfer MS – y cyntaf o’i fath yn y byd.

Mae Arcitebio Ltd yn Aberystwyth wedi datblygu melysydd naturiol rhad sy’n ystyriol o bobol ddiabetig ac i ddannedd gan ddefnyddio datrysiad biodechnolegol i gynhyrchu xylitol o fiomas.

Yn olaf, mae Copner Biotech yng Nglyn Ebwy yn archwilio defnyddio technoleg bioargraffu i gynhyrchu organau newydd.

Mae’r rhaglen, gaiff ei alw’n SMART FIS, yn ddull newydd o ymchwilio a datblygu.

Dydy e ddim wedi’i gyfyngu i fusnesau a sefydliadau ymchwil; mae ar gael i unrhyw sefydliad sydd am gynnal gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi, gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

I sefydliad newydd, gallai hyn olygu cael mynediad at dechnoleg i ddatblygu syniad newydd.

Ar gyfer sefydliad sy’n datblygu, gallai fod yn help gyda phrosiect sydd â photensial, ac i sefydliad sydd wedi’i sefydlu eisoes, gallai fod yn gysylltiedig â gwybodaeth arbenigol i roi mantais ryngwladol trwy agor marchnadoedd newydd.

Gwella bywydau bob dydd

“Cafodd ein rhaglen Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) ei lansio yr haf diwethaf i helpu busnesau a sefydliadau Cymru i wella bywydau bob dydd pobol trwy ysgogi ymchwil ac arloesi blaengar,” meddai Jeremy Miles.

“Rydyn ni eisiau adeiladu cenedl gryfach a thecach gydag economi yn seiliedig ar waith teg, cynaliadwyedd a sectorau’r dyfodol – mae’r rhaglen gymorth yn cynnig sylfaen gref i’r uchelgais hon.

“Fel y gwelir gyda’r prosiectau ysbrydoledig hyn, mae cwmnïau o Gymru yn datblygu syniadau sy’n newid y byd a allai achub bywydau pobl yn y pen draw.

“Mae croeso i unrhyw fath o sefydliad wneud cais am y cymorth hwn – gwnewch gais i weld a allai eich sefydliad chi elwa hefyd.”