Mae degfed person wedi marw yng ngharchar y Parc mewn ychydig dros dri mis.
Y gred yw fod carcharorion yn y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei redeg gan G4S, yn camddefnyddio cyffuriau.
Warren Manners, 38, yw’r diweddaraf i golli ei fywyd yn y carchar, ac mae naw arall wedi marw ers Chwefror 27.
Mae lle i gredu bod pedair yn ymwneud â chyffuriau, ac mae aelod o staff y carchar wedi’i arestio’n ddiweddar mewn perthynas â chyflenwi cyffuriau.
Mae disgwyl i’r Ombwdsmon a’r crwner gynnal ymchwiliadau.
Mae pwysau bellach ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd rheolaeth o’r carchar, lle bu protestiadau ddechrau’r wythnos gan deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.
Y carchar a chyffuriau
Mae’r Parc yn garchar Categori B ar gyfer dynion a throseddwyr ifainc, ynghyd â throseddwyr rhyw neu rai sydd wedi’u hamau o droseddau rhyw.
Ymhlith y cyffuriau sydd wedi’u canfod yno mae Nitazene a sbeis.