Mae pobol wedi marw ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fethu â gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn ddigon cyflym, yn ôl adroddiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Yn ôl eu hymchwil, roedd llai na hanner yr 84 argymhelliad gafodd eu gwneud wedi cael eu cyflwyno.
Dros y degawd diwethaf, mae pedwar arolwg gwahanol wedi dod i’r casgliad fod angen cyflwyno newidiadau i wasanaethau, ac mae corff Llais yn dweud bod pobol yn dal i farw yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae’r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro, ac wedi ymrwymo unwaith eto i wneud gwelliannau.
Cefndir
Yn 2013, daeth i’r amlwg fod yna broblemau â gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd pan gaeodd ward dementia Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.
Erbyn hynny, roedd y bwrdd iechyd eisoes yn ymwybodol o broblemau tebyg yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, lle daeth ymchwiliad i’r casgliad fod diwylliant o fwlio a morâl isel, a bod diogelwch cleifion yn cael ei esgeuluso.
Cafodd pedwar ymchwiliad eu cynnal rhwng 2013 a 2018, ac fe fu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn ceisio canfod a oedd y gwelliannau gafodd eu hargymell wedi cael eu cyflwno.
Dim ond 37 argymhelliad gafodd eu cyflwyno’n llawn, 41 yn rhannol, a chwech ohonyn nhw heb gael eu cyflwyno o gwbl.
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud bod angen i’r bwrdd iechyd adolygu diogelwch cleifion ar frys, yn enwedig hunan-niweidio.
Fe fu’r bwrdd iechyd dan fesurau arbennig unwaith eto y llynedd.
Ymateb
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi comisiynu adolygiad y CBS yn dilyn “sawl adolygiad beirniadol, adroddiad ac erlyniad”.
“Mae’r bwrdd iechyd wedi derbyn canfyddiadau’r adolygiad, ac rydym yn disgwyl iddyn nhw gael eu gweithredu, a hefyd parhau i wneud gwelliannau wrth weithredu polisïau diogel ar draws y gwasanaethau iechyd meddwl.
“Rydym yn falch fod awduron yr adroddiad wedi sylwi ar ymroddiad staff y bwrdd iechyd a’u hymrwymiad clir i ofal cleifion a gwella’r gwasanaeth.”
Mae’r adroddiad hefyd wedi cael ei “groesawu’n fawr” gan y bwrdd iechyd.
“Mae’n ein hatgoffa fod pobol wedi cael eu siomi, ac rydym yn ymddiheuro’n llwyr amdano,” meddai Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Er gwaethaf treigl amser, ni fyddwn byth yn anghofio gofal a phrofiadau gwael cleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd a arweiniodd at yr adolygiadau hyn, a dyma sy’n parhau i’n gyrru ymlaen i wella’r safonau gofal, yn ogystal â’r driniaeth a ddarparwn.
“Er bod llawer o gynnydd wedi’i wneud, mae mwy eto i’w gyflawni ac mae’r bwrdd yn benderfynol o gymryd camau sy’n gwella gwasanaethau, a byddwn yn gwneud hynny ar y cyd â chleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd.”