“Gimic” yw penderfyniad y Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn y Prif Weinidog Vaughan Gething, yn ôl ymgeisydd Llafur Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol.

Wrth siarad â golwg360, dywed Ieuan Môn Williams fod y Ceidwadwyr “yn gyfangwbl allan o syniadau”.

Daw hyn wrth i Vaughan Gething wynebu pleidlais yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (Mehefin 5), lai na thri mis ers iddo olynu Mark Drakeford.

Mae e dan y lach ar ôl derbyn £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan gwmni dyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, helynt dileu negeseuon WhatsApp yn ymwneud â Covid-19, a diswyddo Hannah Blythyn, un o’i weinidogion yn y Llywodraeth, yn dilyn honiadau ei bod hi wedi rhyddhau’r negeseuon i’r wasg.

‘Tynnu sylw i ffwrdd o fethiannau’r Torïaid’

Yn ôl Ieuan Môn Williams, mae’r cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn Vaughan Gething yn “gimic” ac yn “ffordd o dynnu sylw i ffwrdd o fethiannau’r Torïaid”.

“Pan dwi’n siarad efo pobol ar y stepen ddrws ar draws Ynys Môn, dw i’n clywed straeon sy’n torri calon yn ymwneud â sut mae teuluoedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi efo’r argyfwng costau byw,” meddai wrth golwg360.

“Siaradais efo teulu dau ddiwrnod yn ôl lle mae eu morgais nhw wedi mynd fyny tua £6,000 y flwyddyn oherwydd penderfyniadau Liz Truss [cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig].

“Dyma be’ mae pobol yn poeni amdano, ac mae’r bleidlais diffyg hyder yma yn gimig a ffordd o dynnu sylw i ffwrdd o fethianau y Toriaid.”

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, wedi datgan ei gefnogaeth i Vaughan Gething, gan ddweud wrth y wasg yng Nghaerwrangon ddoe (dydd Mercher, Mai 29) ei fod yn “gwneud gwaith da”.

“Cafodd ei ethol, ac rwy’n edrych ymlaen at fod gydag e yn yr ymgyrch hon, lle byddwn yn ymgyrchu gyda’n gilydd ar gyfer yr hyn rwy’n gobeithio fydd y Llywodraeth Lafur nesaf,” meddai.

Ddoe (29 Mai), ymwelodd Rachael Reeves, Canghellor yr Wrthblaid, a Vaughan Gething â chwmni Halen Môn.

“Gan ystyried y nifer o seddi rydym yn ymladd, iddyn nhw ddewis dod fyny i Ynys Môn, mae’n bleidlais o hyder i fi, a’r ymgyrch,” meddai Ieuan Môn Williams.

“Rydym efo cyfle enfawr yma i ailgychwyn y berthynas rhwng Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, ac i greu partneriaeth rhwng y ddwy wlad.”

Ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol

Cafodd Ieuan Môn Williams ei feirniadu yn ystod dyddiau cynnar yr ymgyrch, ar ôl postio negeseuon Saesneg ar X (Twitter gynt), gyda hanner y fersiwn Gymraeg yn weladwy.

“Dw i am ddechrau gwneud mwy yn y Gymraeg, oherwydd mae’r bobol iaith Gymraeg wedi bod yn dod ar fy ôl i ar-lein,” meddai wrth ymateb.

“Ond mae gan bobol rychwantau sylw mor fyr dyddiau yma.

“Dw i wedi bod yn blaenoriaethu’r Saesneg, ond dw i’n sicr rŵan am wneud mwy yn y Gymraeg.”