Bydd dadl deledu rhwng yr arweinwyr gwleidyddol Rishi Sunak a Syr Keir Starmer ar ITV yr wythnos nesaf “fel dau foi moel yn ymladd dros grib”, yn ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru.

Daw sylwadau Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru rhwng 2012 a 2018, ar ôl i Blaid Cymru fod yn brwydro dros hawl Rhun ap Iorwerth i gymryd rhan.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth yr arweinydd wahodd arweinwyr y Ceidwadwyr a Llafur i Gymru i gynnal dadl, wrth i Liz Saville Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, ddadlau nad “dau geffyl yn unig sydd yn y ras”.

“O ystyried tirlun gwan y cyfryngau yng Nghymru, caiff yr etholiad hwn ei fframio drwy lens Seisnig,” meddai yn ei llythyr.

“Mae gan ddarlledwyr ddyletswydd i roi adlewyrchiad cywir o’r dewisiadau yn yr orsaf bleidleisio ym mhob gwlad ledled Prydain.

“Ond gan mai eich pleidiau chi sy’n gwneud yr holl benderfyniadau pan ddaw i benderfyniadau darlledwyr ar gyfer dadleuon yn yr etholiad hwn, rhaid i chi ddangos arweiniad.

“Dewch i ddadlau ac i amddiffyn record eich pleidiau eich hunain yma yng Nghymru: o gamreolaeth gronig o’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol i dangyllido gwasanaethau cyhoeddus yn ddifrifol.”

Y ddadl gyntaf

Bydd ITV yn darlledu’r ddadl arweinwyr gyntaf am 9 o’r gloch nos Fawrth (Mehefin 4), a hynny dan arweiniad y cyflwynydd Julie Etchingham.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddarlledu cyfweliadau ag arweinwyr eraill, a dadl amlbleidiol hefyd.

Wrth ymateb, dywed Leanne Wood y “bydd hon fel dau foi moel yn ymladd dros grib”.