Mae Rishi Sunak a Keir Starmer wedi cael eu herio i gynnal dadl deledu yn erbyn Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.

Mae mwy na dau geffyl yn y ras, yn ôl Liz Saville Roberts, sy’n arwain Plaid Cymru yn San Steffan ac a fydd yn gyfrifol am arwain ymgyrch ei phlaid yn yr etholiad cyffredinol.

Mae hi wedi ysgrifennu at arweinwyr y Ceidwadwyr a Llafur i’w gwahodd nhw i Gymru, ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw’n barod i wrthod cynnal dadleuon yn erbyn pleidiau llai.

Dywed Liz Saville Roberts fod pleidleiswyr yn haeddu “darlun llawn” o ran y dewisiadau democrataidd sydd ganddyn nhw, ac y byddai unrhyw ddadl sy’n cau ei phlaid hi allan yn “camarwain gwylwyr yng Nghymru”.

Mae hi wedi herio’r ddau arweinydd i amddiffyn eu record yng Nghymru – o “gamreolaeth gronig” o’r Gwasanaeth Iechyd gan Lafur i “dangyllido” gan y Ceidwadwyr.

‘Agored’

Yn ei llythyr, mae Liz Saville Roberts yn annog Rishi Sunak a Keir Starmer i fod yn “agored” i’r posibilrwydd o gynnal dadl yn erbyn Rhun ap Iorwerth a Phlaid Cymru.

Mae hi’n galw arnyn nhw i “egluro y byddwch chi’n hapus i gymryd rhan mewn dadl sy’n sicrhau bod holl brif bleidiau Cymru’n cael eu trin yn deg yn yr etholiad hwn”.

“Nid dau geffyl yn unig sydd yn y ras yma,” meddai.

“O ystyried tirlun gwan y cyfryngau yng Nghymru, caiff yr etholiad hwn ei fframio drwy lens Seisnig,” meddai.

“Mae gan ddarlledwyr ddyletswydd i roi adlewyrchiad cywir o’r dewisiadau yn yr orsaf bleidleisio ym mhob gwlad ledled Prydain.

“Ond gan mai eich pleidiau chi sy’n gwneud yr holl benderfyniadau pan ddaw i benderfyniadau darlledwyr ar gyfer dadleuon yn yr etholiad hwn, rhaid i chi ddangos arweiniad.

“Dewch i ddadlau ac i amddiffyn record eich pleidiau eich hunain yma yng Nghymru: o gamreolaeth gronig o’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol i dangyllido gwasanaethau cyhoeddus yn ddifrifol.”

Ychwanega fod Plaid Cymru’n barod i gyflwyno ariannu teg yn dilyn methiant y pleidiau eraill i wneud hynny, yn ogystal â sicrhau pwerau tebyg i’r Alban drwy system les Gymreig, ac adfer cyflogau ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio’n galed.

“Byddem yn croesawu’r cyfle’n fawr iawn i amlinellu ein hachos yn yr etholiad hwn,” meddai.

“Dadl rhwng arweinwyr y pleidiau amrywiol yw’r unig ffordd o adlewyrchu’r dewis democrataidd sy’n wynebu pobol yn yr etholiad hwn.

“Rwy’n ymbil arnoch chi i dderbyn ein cynnig, fel y gall pleidleiswyr yng Nghymru gael syniad gwirioneddol o’r dewis sy’n eu hwynebu nhw yn yr etholiad hwn.”