Mae sêl bendith wedi’i roi i gau ysgol gynradd ddrutaf Cymru.

Dim ond naw disgybl sydd yn Ysgol Gymuned Carreglefn ger Amlwch, ac maen nhw’n costio £17,200 yr un i Gyngor Ynys Môn.

Mae hyn fwy na thair gwaith yn uwch na chost gyfartalog y pen ar gyfer pob disgybl ym Môn (£5,240), yn ôl adroddiad gan y Cyngor.

Wrth iddyn nhw gyfarfod ddoe (dydd Iau, Mai 23), fe wnaeth pwyllgor gwaith Cyngor Ynys Môn bleidleisio’n unfrydol o blaid cau’r ysgol yn ddiweddarach haf yma.

Bydd disgyblion bellach yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Gymuned Llanfechell, ryw ddw filltir i ffwrdd.

Adroddiad

Nododd adroddiad fod gan yr ysgol 80% yn ormod o lefydd, a bod pedwar allan o’r naw disgybl presennol ym Mlwyddyn 6.

Roedd rhagolygon yr ysgol yn dangos mai pump neu lai o ddisgyblion fyddai’n mynychu’r ysgol o fis Medi eleni.

Nododd yr adroddiad hefyd fod yr ysgol wedi cael trafferth penodi pennaeth, a’u bod nhw’n rhannu eu pennaeth ag ysgol arall ar hyn o bryd.

“Dydy’r pennaeth ddim ond ar dir yr ysgol ddeuddydd yr wythnos, tra bo’r dirprwy yn arwain yr ysgol ar y tridiau arall yn yr wythnos,” meddai.

Roedd y Cyngor wedi cyhoeddi gofyniad nodyn statudol, ac roedd cyfnod o 28 diwrnod wedi mynd heibio.

Roedd y cyfnod gwrthwynebu wedi dechrau ar Fawrth 1, ac wedi dod i ben ar Ebrill 2, gydag wyth neges o wrthwynebiad wedi dod i law.

Cafodd sesiwn wyneb yn wyneb ei chynnal â disgyblion yr ysgol hefyd, ac fe gawson nhw gyfle i rannu eu barn.

Roedd athro wedi anfon e-bost at y Cyngor yn cynnwys rhestr o saith ymateb gan y plant, a chafodd ymatebion eu derbyn gan y corff llywodraethwyr hefyd.

Roedd cyngor cymuned hefyd wedi canmol “gwaith da’r ysgol a’r staff”, ond doedden nhw ddim wedi gwrthwynebu.

‘Byth yn broses hawdd’

Dywed y Cynghorydd Dafydd Roberts, deilydd portffolio addysg a’r Gymraeg y Cyngor, fod cau ysgol â llai na deg disgybl wedi bod yn “broses symlach”.

“Ond ar ddiwedd pennod fel hon, hoffwn ddiolch i bob aelod o staff, pob llywodraethwr, rhieni a’r gymuned ehangach, sydd wedi sicrhau bod Ysgol Carreglefn wedi dal i fynd dros y cyfnod,” meddai.

Dywed y Cynghorydd Gary Pritchard nad yw cau ysgolion “fyth yn broses hawdd”.

“Ga i ategu’r diolch gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, nid yn unig i’r adran a’r swyddogion ond hefyd i gymuned yr ysgol a chymuned ehangach Carreglefn am y ffordd barchus maen nhw wedi ymdrin â’r broses,” meddai.

Dywed ei fod yn “edrych ymlaen” at gydweithio â’r gymuned i sicrhau defnydd i’r ysgol at y dyfodol.

“Hoffwn ategu’r diolchiadau hynny i’r staff am eu gwaith dros y blynyddoedd, a diolch i’r ysgol am roi cyfleoedd i bobol ifanc dros y blynyddoedd,” meddai’r Cynghorydd Carwyn Jones.

“Dymunaf yn dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol, a diolch hefyd i’r llywodraethwyr am eu gwaith dros y blynyddoedd yn cefnogi’r ysgol.

“Dw i’n gwybod y teimlad. Pan wnes i eistedd yma yn 2013 yn llywodraethwr ac yn aelod lleol dros Landdona, fe wnaeth yr ysgol gau efo 13 o plant.

“Yr hyn wnaethon ni bryd hynny, fel cymuned daethon ni ynghyd i weld beth fedren ni ei wneud i Landdona, at y dyfodol, ac yn 2019 mi wnaethon ni agor y ganolfan gymuned newydd i’r pentref.

“Bu’n dda i Landdona, felly wrth i un drws gau… efallai ei bod hi’n bryd i’r gymuned feddwl pa ddrysau eraill fedrwn ni eu hagor yn y dyfodol.”

Dywed y Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd y Cyngor ac aelod lleol, fod y gymuned wedi bod yn “barchus yn y drafodaeth” ac wedi deall y rhesymeg “gan mai dim ond pum plentyn fyddai wedi bod yno ym mis Medi”.

Ychwanega y byddan nhw’n parhau i gynnal trafodaethau â’r gymuned ynghylch adnoddau a chynnal gweithgareddau cymunedol yn y pentref.