Mae Prifysgolion Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw am gynnal y Llwybr Graddedigion.

Er bod y llywodraeth wedi penderfynu tynhau’r rheolau ar fisas, maen nhw wedi penderfynu peidio dileu’r drefn bresenol yn llwyr a chyflwyno rheolau llawer llymach.

Yn ôl Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, byddai dileu’r Llwybr Graddedigion wedi arwain at leihau nifer y mewnfudwyr sy’n dod i wledydd Prydain.

Ond maen nhw wedi penderfynu cadw’r drefn bresennol, sy’n galluogi graddedigion i aros am ddwy flynedd ar ôl graddio, a’i hadolygu’n gyson.

Bydd y Swyddfa Gartref yn ceisio lleihau nifer yr asiantiaid recriwtio twyllodrus sy’n gweithredu, fodd bynnag, gan gyflwyno safonau cydymffurfio mwy llym ar gyfer sefydliadau addysg.

Ymhlith y camau sydd wedi’u cyhoeddi mae:

  • fframwaith llym newydd ar gyfer prifysgolion sy’n defnyddio asiantiaid recriwtio sy’n annog pobol i wneud cais i sefydliadau yng ngwledydd Prydain
  • codi’r trothwy fel bod rhaid i fyfyrwyr brofi eu bod nhw’n hunangynhaliol yn ariannol
  • pe bai sefydliadau’n derbyn myfyrwyr tramor sy’n mynd yn groes i reolau fisas, bydden nhw’n wynebu colli trwyddedau nawdd ar gyfer eu cyrsiau
  • cyfyngiadau ar ddysgu o bell er mwyn sicrhau bod myfyrwyr o dramor yn cael eu dysgu wyneb yn wyneb yn bennaf

Bydd y fisas i raddedigion yn aros yn eu lle tan ar ôl Gorffennaf 4, sef diwrnod yr etholiad cyffredinol.

‘Hanfodol’

Mae Prifysgolion Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad fel un “hanfodol”.

“Rydym yn croesawu’r datganiad heddiw y bydd y Llwybr Graddedigion yn parhau,” meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru.

“Mae’r gallu i gynnig gwaith wedi cyfnod o astudio sydd yn gystadleuol yn hanfodol i’n gallu i ddarparu lleoliad astudio atyniadol.

“Yn ei dro, mae hyn yn hybu cyfleoedd a thyfiant economaidd.

“Yng Nghymru, mae gennym ganran is o raddedigion yn ein gweithlu sy’n golygu fod y llwybr hwn yn arf bwysig i ddiwallu ein anghenion sgiliau.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ynglyn a’r cyfraniad positif mae myfyrwyr tramor yn eu gwneud i gymdeithas, diwylliant ac economi Cymru.

“Rydym yn gwerthfawrogi y modd adeiladol o weithio gyda’r Llywodraeth ar y materion hyn.

“Tra bod adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Faterion Ymfudo yn glir nad oes unrhyw dystiolaeth o gamddefnydd o’r Llwybr Graddedigion, rydym yn ymroi fel sector i weithio i sicrhau ein bod yn cynnal lefel uchel o ymddiriedaeth a hyder yn y modd mae ein prifysgolion yn recriwtio ac yn cefnogi myfyrwyr tramor.

“Mae’r datganiad heddiw wedi rhoi eglurder angenrheidiol i sector sy’n gwynebu heriau o ran cynaliadwyedd ariannol a’r cwymp mewn niferoedd o fyfyrwyr tramor.

“Nawr, mae’n holl bwysig ein bod yn gweithio yn bositif i ddarparu sector cynaliadwy sydd ag ymagwedd rhyngwladol ac i barhau i roi croeso cynnes a chynhwysol i’r rheini sy’n dewis astudio yn ein prifysgolion.”

Cyfyngu fisas graddedigon am “gael effaith ar sefydlogrwydd ariannol” addysg uwch

Cadi Dafydd

Bwriad Rishi Sunak ydy cyflwyno cyfyngiadau er mwyn sicrhau mai dim ond “y gorau a’r disgleiriaf” fydd yn cael dod i’r Deyrnas Unedig