Mae merch 14 oed wedi’i chadw mewn uned ddiogel i bobol ifanc, wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobol yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Aeth y ferch, oedd yn 13 oed adeg y digwyddiad, gerbron Llys y Goron Abertawe fore heddiw (dydd Gwener, Mai 24).

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl, eu hanafu yn y digwyddiad ar Ebrill 24.

Yn ystod y gwrandawiad, fe wnaeth y ferch gadarnhau ei henw trwy gyswllt fideo o’r uned.

Bydd hi’n cael ei chadw yn yr uned tan y gwrandawiad nesaf ar Awst 12, ac mae disgwyl i’r achos ddechrau ar Fedi 30.

Ysgol Dyffryn Aman: Cadw merch, 13, yn y ddalfa ar ôl ei chyhuddo

Mae’r ferch, nad oes modd ei henwi, wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobol

Ysgol Dyffryn Aman: Cyhuddo merch 13 oed o geisio llofruddio tri o bobol

Cafodd y ferch ei harestio ar dir yr ysgol yn dilyn y digwyddiad
Heddwas

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Cafodd tri o bobol eu trywanu, medd Heddlu Dyfed-Powys