Roedd cig oen Cymreig yn fwy poblogaidd ar drothwy’r Pasg na chyw iâr, yn ôl Hybu Cig Cymru, sydd wedi nodi “newid amlwg” yn arferion pobol.

Darnau rhostio oedd fwyaf poblogaidd, gyda chynnydd sylweddol o 24% o’r naill flwyddyn i’r llall yn golygu taw dyna oedd 73% o’r holl gig oen gafodd ei werthu, yn ôl Kantar, yr arbenigwyr ar ystadegau.

Yng Nghymru roedd y cynnydd mwyaf yng ngwerthiant cig oen yn gyffredinol.

‘Gwthio’r cwch allan’

“Mae’n ymddangos, ar ôl misoedd o fod yn gyndyn i wario, fod ein cwsmeriaid wedi penderfynu gwthio’r cwch allan dros y Pasg a dewis eu ffefryn traddodiadol – darn o gig oen blasus i’w rostio,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes gyda Hybu Cig Cymru (HCC).

Roedd cynnydd rhyfeddol yng nghyfaint y darnau cig oen i’w rhostio mewn cymhariaeth â’r cyfnod cyfatebol yn 2023, er eu bod yn ddrutach na mathau eraill o gig coch.

Mae ystadegau Kantar yn awgrymu bod cig oen wedi denu siopwyr oddi ar broteinau eraill, fel cyw iâr, y Pasg hwn, gyda 296,000 o siopwyr ychwanegol yn prynu darnau i’w rhostio.

“Mae’r data yn dangos bod defnyddwyr wedi anwybyddu’r cynhyrchion cig coch rhad y Pasg hwn a phrynu’r darnau rhostio ffres, er bod llawer o bobl yn teimlo gwasgfa ariannol o hyd,” meddai Glesni Phillips wedyn.

“Gwerthwyd 4% yn llai o gigoedd wedi rhewi mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol, tra bod gwerthiant cig coch ffres wedi cynyddu bron i 2%.

“Mae’n ymddangos bod siopwyr wedi cael gwerth eu harian drwy gyfrwng cynigion hyrwyddo.

“Yn ystod y Pasg, mae mwyafrif y mân-werthwyr fel arfer yn cynyddu hyrwyddiadau ar draws pob categori cynnyrch.

“Yn nodedig, bu mwy o hyrwyddo i bob protein cig coch nag yn ystod y Pasg diwethaf; fodd bynnag, cig oen oedd yr unig brotein lle gwelwyd twf cyfaint yn ystod ac oddi ar yr hyrwyddo.”

Cigyddion annibynnol

Un eithriad i’r cynnydd ym manwerthu cig oen oedd y sector Cigyddion Annibynnol.

Gwelon nhw ostyngiad o bron i 20% yn y cyfaint mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol.

“Mae’n bosibl taw’r rheswm am hyn oedd bod eu pris nodweddiadol yn uwch ar gyfartaledd, a’u bod yn anos iddyn nhw drefnu hyrwyddiadau na mân-werthwyr mwy yn ystod tymor y Pasg,” meddai Glesni Phillips.