Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn disgwyl etholiad cyffredinol “heriol” i Blaid Cymru.
Bu arweinydd Plaid Cymru’n siarad â golwg360 oriau’n unig cyn i Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, gyhoeddi y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar Orffennaf 4.
Yr etholiad hwn fydd y cyntaf ers i ffiniau etholiadol newydd gael eu cyflwyno, sy’n golygu bod nifer Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan am ostwng o 40 i 32.
O safbwynt Plaid Cymru, ar sail etholiad cyffredinol 2019, byddai’n golygu mai dwy sedd fydden nhw’n eu hennill yn hytrach na’r pedair gawson nhw o fewn y ffiniau presennol.
“O ran yr etholiad cyffredinol eleni, dwi wedi bod yn agored iawn, mae hyn yn etholiad heriol i ni,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth golwg360.
“Hynny yw, y pegynnu rhwng coch [Llafur] a glas [Ceidwadwyr], a bydd pobol yn cael y neges yma mai dim ond dau ddewis sydd ganddyn nhw yn yr etholiad.
“Ein gwaith ni, wrth gwrs, ydi dangos… iawn, rydym eisiau cael gwared ar y Ceidwadwyr, ond dydi Llafur ddim yn cynnig llawer iawn o ddim i Gymru ac yn cymryd Cymru’n ganiataol.
“Felly, rydan ni angen i lais Plaid Cymru fod mor gryf ag sy’n bosib er mwyn sicrhau’n bod ni’n cael ein clywed ar ariannu teg, ar sicrhau ein bod yn cael ein cyfran o arian o HS2, ar ddatganoli pwerau ychwanegol dros gyfiawnder, ar ddatganoli ystâd y goron, ac yn y blaen.”
‘Tegwch ac uchelgais’
Wrth siarad â golwg360 o San Steffan, dywed Hywel Williams, Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn Arfon, mai “tegwch” ac “uchelgais” fydd y ddau brif bwynt y bydd y Blaid yn eu tanlinellu wrth ymgyrchu dros y chwe wythnos nesaf.
“Be’ mae’n rhaid cofio ydi, heblaw un, mi fyddwn ni’n ymladd seddi newydd,” meddai.
“Mae o’n sicr yn ffactor i’w ystyried wrth i ni fynd yn ein blaen.
“Ond yn dweud hynny, dw i’n meddwl ein bod ni’n reit saff yng Ngheredigion a Dwyfor Meirionydd, a dw i yn hyderus am Sir Fôn a Chaerfyrddin hefyd.”
Dadansoddiad: Rhys Owen
Er bod teimlad bod yr etholiad yn mynd i fod yn un anodd a heriol i Blaid Cymru, mae’n amlwg fod yna gred gan bobol o fewn y Blaid fod yna ddigon i fynd i’r afael ag o yn nhermau seddi – ac ennill digon o seddi i gynrychioli, fel maen nhw’n ei gweld hi, lais Cymru yn San Steffan.