Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar Orffennaf.

Mewn datganiad y tu allan i Rif 10 Downing Street, dywedodd ei fod e wedi gofyn i Charles, Brenin Lloegr, ddiddymu’r senedd yn San Steffan.

Wrth wneud y cyhoeddiad, cyfeiriodd Rishi Sunak at y blynyddoedd anodd aeth heibio, gan gynnwys y pandemig Covid-19 a chostau ynni uchel o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin.

Wrth gydnabod sefyllfa anodd, dywedodd ei fod bellach yn fater o bwy mae pobol yn ymddiried ynddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

Dywed ei fod yn falch o’r hyn mae ei lywodraeth wedi’i gyflawni, gan gynnwys creu dyfodol gwell i blant, ond nad oes modd honni eu bod nhw wedi gwneud popeth yn iawn.

Ymhlith eu llwyddiannau, meddai, mae codi lefelau ariannu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gwella sgiliau darllen plant, rhoi diogelwch ynni uwchlaw “dogma amgylcheddol”, a chynyddu gwariant ar amddiffyn.

Cyfeiriodd hefyd at gynlluniau dadleuol megis HS2 a Chynllun Rwanda, ynghyd â’r cynlluniau i greu cenedl “ddi-fwg”.

Ychwanegodd nad yw ei lywodraeth yn barod i achosi ansefydlogrwydd economaidd.

‘Mae ein cynllun economaidd yn gweithio’

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod cynllun economaidd y Blaid Geidwadol “yn gweithio”.

“Mae Keir Starmer [arweinydd Llafur] yn dweud mai Cymru yw ei lasbrint ar gyfer llywodraeth, a thra bo’r Ceidwadwyr yn cyflawni dros Gymru, mae record Llafur yng Nghymru’n rhybudd cryf i weddill y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae gennym ni Brif Weinidog Llafur [Vaughan Gething yng Nghymru] sydd yng nghanol dadl am arian brwnt, am derfynau cyflymder 20m.y.a. sydd wedi’u gyrru gan ideoleg, a’i gynlluniau i wario £120m ar 36 yn rhagor o wleidyddion sy’n dangos nad yw’n ei deall hi.

“Diolch i Lafur, mae gan Gymru y rhestrau aros hiraf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig, y gyflogaeth isaf yn y Deyrnas Unedig, a’r safonau addysg gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mynd â’r neges i’r wlad fod ein cynllun economaidd yn gweithio, ac am na ellir ymddiried yn Llafur i redeg Cymru, does dim modd ymddiried ynddyn nhw i redeg y Deyrnas Unedig.”

‘Plaid Cymru yn barod i ymladd am degwch i Gymru’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod ei blaid “yn barod i ymladd am degwch i Gymru”.

“Dim ond pleidlais i Blaid Cymru fydd yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf yn yr etholiad hwn,” meddai.

“Rydyn ni’n barod i fynd â’r frwydr hon i bleidiau Llundain i fynnu’r tegwch mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.

“Mae’r Torïaid wedi chwalu’r economi ac mae pobol yn talu’r pris.

“Mae Llafur, ar y llaw arall, yn cymryd Cymru’n ganiataol.

“Wnaiff dim un o bleidiau Llundain roi Cymru’n gyntaf.

“Dim ond Plaid Cymru fydd yn mynnu tegwch i Gymru – bargen ariannu decach fel y gallwn fuddsoddi yn ein heconomi, ein gwasanaeth iechyd ac ysgolion; y biliynau sy’n ddyledus i ni mewn arian rheilffordd fel y gallwn gysylltu ein cymunedau o’r gogledd i’r de; a’r pwerau dros ein adnoddau naturiol, fel y gallwn adeiladu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy greu swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda.

“Ym Mhlaid Cymru, mae gennych chi ymgeiswyr wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau.

“Pencampwyr lleol cryf a fydd yn llais i Gymru yn San Steffan – nid llais San Steffan yng Nghymru.

“Ac mae mwy o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn golygu mwy o leisiau’n gweiddi dros Gymru.”

‘Mae angen etholiad cyffredinol nawr’

Mewn neges ar X (Twitter gynt), dywed Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, fod “Rishi Sunak wedi dod i’r un casgliad â gweddill y wlad, o’r diwedd: mae angen etholiad cyffredinol nawr”.

“Mae pobol ledled Cymru’n galw allan am newid llywodraeth, terfyn ar anhrefn y Torïaid, a dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio – dros Gymru a thros Brydain,” meddai.

Mewn fideo, dywed nad oes gan y Ceidwadwyr “glem beth ddaw nesaf”, ond fod “Llafur yn barod ar gyfer yr etholiad cyffredinol”.

Dywed mai’r prif flaenoriaethau i Gymru yw:

  • tyfu’r economi
  • datgloi potensial ynni gwyrdd
  • moderneiddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • gwneud strydoedd y wlad yn ddiogel
  • chwalu’r rhwystrau o ran cyfleoedd i bawb

Ychwanega fod “sefydlogrwydd ariannol a pholisi cadarn” yn greiddiol i’r blaenoriaethau hynny.

‘Hen bryd’

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n dweud ei bod hi’n “hen bryd i’r cyhoedd gael dweud eu dweud o ran pwy sy’n rhedeg y wlad”.

“Ar ôl misoedd o ddyfalu a sïon, o’r diwedd mae Rishi Sunak wedi penderfynu wynebu’r gwirionedd drwy alw etholiad cyffredinol yr haf yma,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.

“Mae’n hen bryd i’r cyhoedd gael dweud eu dweud o ran pwy sy’n rhedeg y wlad; ar ôl blynyddoedd o anhrefn gan y Ceidwadwyr, o’r diwedd rydym wedi cael y cyfle i ddangos y drws iddyn nhw.

“Dyma gyfle i’r etholwyr anfon neges i San Steffan a Bae Caerdydd eu bod nhw am weld newid ystyrlon.

“Peidiwch â chamddeall, dydy’r Ceidwadwyr na Llafur ddim yn cynnig unrhyw beth gwahanol i’r status quo ar hyn o bryd.

“Fe fu gan y Democratiaid Rhyddfrydol hanes balch erioed o sefyll i fyny dros fuddiannau pobol yma yng Nghymru, a fydd hyn ddim yn newid.

“Nid yn unig mae hwn yn gyfle i daflu’r Ceidwadwyr allan o San Steffan, ond hefyd mae’n gyfle i ni anfon neges at Lywodraeth Lafur Cymru na fydd Cymru’n goddef eu nonsens lawer hirach.”