Mae cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef fod camgymeriadau wedi cael eu gwneud wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder 20m.y.a. diofyn dadleuol yng Nghymru.

Dywedodd Lee Waters, oedd wedi gadael swydd y Gweinidog Trafnidiaeth ym mis Mawrth, wrth Aelodau’r Senedd fod deiseb hanesyddol, oedd wedi cael ei llofnodi gan bron i hanner miliwn o bobol, wedi gwneud i Lywodraeth Cymru dalu sylw.

Yn ystod dadl yn y Senedd gafodd ei hysgogi gan y ddeiseb, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi disgwyl adlach, ond fod dwyster y gwrthwynebiad yn fwy na’r disgwyl.

“Cafodd camgymeriadau eu gwneud, yn enwedig wrth beidio cynnal ymgynghoriad gwirioneddol mewn cymunedau ac yn y ffordd anhyblyg, anwastad y cafodd y canllawiau eu dehongli mewn rhai rhannau o Gymru, a dw i’n fodlon derbyn fy rhan yn hynny i gyd,” meddai.

“Ond gadewch i’r ddau draean o Aelodau’r Senedd hon oedd wedi cefnogi’r terfyn 20m.y.a. diofyn gofio hyn – mae pobol yn fyw heddiw oherwydd y gyfraith hon; gyda’n gilydd, rydyn ni wedi achub bywydau.”

‘Digynsail’

Fe wnaeth yr Aelod Llafur o’r Senedd feirniadu “camwybodaeth bwriadol” gan aelodau’r wrthblaid “oedd wedi’i greu i blannu dryswch”, gan dynnu ar enghreifftiau o’r darlun anghywir o bolisi “blanced”.

Arweiniodd Jack Sargeant y dddal ar y ddeiseb, gafodd ei chyflwyno gan Mark Baker a’i llofnodi gan 469,571 o bobol, y nifer fwyaf yn ystod 25 mlynedd Senedd Cymru.

Dywedodd Jack Sargeant, sy’n cadeirio’r Pwyllgor Deisebau, wrth y Senedd fod mwy na 17,000 o bobol yn ei etholaeth ei hun yn Alun a Glannau Dyfrdwy wedi ychwanegu eu henwau i’r gefnogaeth.

“Fe fu ymateb digynsail i’r ddeiseb hon,” meddai.

“A dw i’n llongyfarch y deisebydd am gasglu’r nifer fwyaf o lofnodion welodd y Senedd erioed.”

Fe wnaeth e groesawu newid cyfeiriad Llywodraeth Cymru, fydd yn gweld rhai ffyrdd yn dychwelyd i derfyn o 30m.y.a. – gydag 20m.y.a. yn targedu ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd.

‘Syniad ffôl’

Dywedodd yr aelod o feinciau cefn Llafur fod y ddeiseb wedi ysbrydoli rhagor, gyda dwywaith cymaint yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnos ganlynol ag y byddai’n cael eu cyflwyno mewn mis fel arfer.

Yn ei ddeiseb ynghylch y polisi “trychinebus”, dywedodd Mark Baker fod “Llywodraeth Cymru wedi cael ei rhoi yno gan bobol Cymru”.

“Ni yw eich penaethiaid!” meddai.

“Rydym yn mynnu bod y syniad ffôl yma’n cael ei atal.”

Dywedodd Natasha Asghar fod nifer y bobol oedd wedi llofnodi’r ddeiseb mewn cyfnod mor fyr yn dangos cryfder y teimladau ymhlith y cyhoedd.

Fe wnaeth llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr feirniadu’r polisi “draconaidd, sy’n achosi rhwyg”, gan alw am ei ddileu a honni y bydd yn ergyd werth £9bn i economi Cymru.

Dywedodd Natasha Asghar, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, fod y polisi yn tarfu ar y gwasanaethau brys a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan rybuddio bod Cymru’n dod i stop.

‘Trychinebus’

Cytunodd Delyth Jewell, llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, fod nifer o ffyrdd wedi’u dynodi’n 20m.y.a. ar gam, gan erydu cefnogaeth y cyhoedd i’r polisi.

“Tra bod cyflwyno’r cynllun hwn yn ddiffygiol, doedd y syniad tu ôl i’r polisi ei hun ddim,” meddai wrth y Siambr.

Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru ei bod hi’n cofio sut y bu i ferch fach oedd yn byw mewn pentref cyfagos pan oedd hi’n tyfu i fyny gael ei lladd mewn gwrthdrawiad â char.

Dywedodd y bydd y polisi’n achub bywydau ac yn atal trychinebau y gellir eu hosgoi ac sy’n difetha bywydau.

“Rydyn ni’n sôn am drychineb; does bosib ei bod hi’n fwy priodol o ystyried y boen i deuluoedd o golli plentyn… y boen sy’n cael ei hachosi i yrrwr?”

Llanast

Fe wnaeth Hefin David, yr Aelod o’r Senedd dros Gaerffili, ganmol “dewrder gwleidyddol” Lee Waters am gyflwyno polisi fydd yn gadael gwaddol o ran achub bywydau.

Dywedodd John Griffiths, cyd-aelod o feinciau cefn Llafur sy’n cynrychioli Dwyrain Casnewydd, fod mwy a mwy o bobol eisiau gweld mwy o ddiogelwch ar y ffyrdd.

“Fel roedd fy nhad yn arfer dweud, mae’n anodd gwneud pwrs sidan allan o glust mochyn,” meddai Peter Fox wrth groesawu bod gweinidogion Cymru’n ailfeddwl.

Fe wnaeth y Ceidwadwr feirniadu’r polisi 20m.y.a. diofyn am “achosi anhrefn” yn ei etholaeth ym Mynwy, gan ddweud bod llygredd aer wedi cynyddu’n ddifrifol.

Dywedodd Gareth Davies, cyd-Dori, fod y terfyn cyflymder yn achosi anhrefn yng ngogledd Cymru yn yr un modd.

‘Polareiddio’

Fe wnaeth Ken Skates, sydd wedi cyfarfod â’r deisebwr ers dod i mewn i’r swydd, gydnabod ystod y lleisiau sy’n siarad allan o blaid ac yn erbyn y polisi.

“Allwn ni ddim dianc rhag y ffaith fod 20m.y.a. wedi polareiddio cymunedau,” meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

“Dyna pam dw i wedi rhoi cymaint o bwyslais ar wrando.”

Fe wnaeth Ken Skates, sy’n cynrychioli De Clwyd, addo dysgu gwersi o gyflwyno 20m.y.a., gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod lleisiau trigolion sydd wrth galon y polisi.

“Mae yna wahaniaethau o ran barn, ond mae gennym ni lawer mwy yn gyffredin nag sy’n ein rhannu ni, a dw i’n benderfynol o barhau â’r sgwrs honno yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”

Wrth addo dilyn y dystiolaeth a thawelu “rhyfeloedd diwylliannol sy’n polareiddio”, dywedodd Ken Skates fod tystiolaeth o amgylch y byd yn dangos bod gostwng terfynau cyflymder yn arwain at leihau damweiniau.

‘Llyfrau hanes’

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, aelod o’r Pwyllgor Deisebau, fod y polisi wedi achosi rhwystredigaeth i nifer fawr o bobol wrth iddo sicrhau’r deisebwyr fod eu lleisiau wedi cael eu clywed.

“Ddoe, yn y Siambr hon, siaradodd Jack Sargeant i ganmol y ddeiseb yn 2012 oedd wedi cyflawni ei nod – camerâu cylch-cyfyng mewn lladd-dai,” meddai wrth gau’r ddadl ddoe (dydd Mercher, Mai 22).

“Dydy hi ddim bob amser yn glir beth fu effaith na dylanwad deiseb.

“Bydd yn cymryd ychydig fisoedd eto, blynyddoedd efallai, i’r polisi hwn setlo ac i’r anawsterau gael eu llyfnhau.

“Ond dw i’n siŵr, yn y dyfodol pan fydd y llyfrau hanes yn cael eu hysgrifennu yn edrych yn ôl ar y Chweched Senedd, y polisi hwn a’r ddeiseb ddaeth i’w herio, y bydd yn fwy na throednodyn yn unig.”