Dylid dechrau paratoi i gynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobol ifanc ar unwaith, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r diwydiant trafnidiaeth nawr i drafod sut y byddai’r cynllun yn gweithio.

Byddai’r cam yn sicrhau buddion amgylcheddol ac yn creu cenhedlaeth sy’n llai dibynnol ar geir, medd y pwyllgor.

Mae’r gwaith wedi’i sbarduno gan ddeiseb ac ymgyrch gyhoeddus sy’n seiliedig ar waith Senedd Ieuenctid Cymru, a chanfyddiad y Pwyllgor Deisebau fod yr uchelgais yn ymarferol ac y byddai’n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r amgylchedd.

‘Elwa’n gymdeithasol ac economaidd’

Yn ôl ymchwil y Pwyllgor, dywedodd bron i 75% o dros 1,000 o bobol ifanc y bydden nhw’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach pe bai’n rhad ac am ddim.

“Os yw pobol yn gweld bod trafnidiaeth gyhoeddus yn anghyfleus, naill ai oherwydd dibynadwyedd neu bris, yna byddan nhw’n dewis defnyddio’r car,” meddai Ffion Fairclough, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

“Dylai mwy o arian gael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus i gynyddu nifer y bobol sy’n ei defnyddio, a dylai rhan o’r arian hwn gael ei wario i ddarparu gwasanaeth am ddim i bobol dan 25 oed.

“Pe bai cynllun fel hwn yn cael ei gyflwyno, byddai pobol iau nid yn unig yn elwa’n gymdeithasol, ond bydden nhw hefyd yn cael rhagor o gyfleoedd gwaith.

“Yr isafswm cyflog i brentisiaid neu’r rhai 16-17 oed yw £6.40 yr awr yn unig, ond mae tocyn dwyffordd o Bontypridd i Gaerdydd yn costio bron i £9.”

Ffion Fairclough

‘Polisi trawsnewidiol’

Mae Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, hefyd wedi galw am drafnidiaeth am ddim i bobol ifanc, a galwodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar y pryd, am hynny ym mis Tachwedd 2022.

Yn yr Alban, mae cynllun tebyg eisoes ar waith ac mae wedi darparu dros 100m o deithiau bws am ddim i bobol dan 22 oed ers cael ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl.

Gallai trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobol ifanc fod yn “bolisi trawsnewidiol” fyddai’n lliniaru costau byw i deuluoedd, yn cefnogi’r hinsawdd ac yn helpu i adfer y sector bysiau ar ôl y pandemig, yn ôl Jack Sargeant, cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

“Siaradodd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru â ni’n angerddol am yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chytunodd arbenigwyr ar draws sawl sector i gyd ar y manteision y gallai’r cynllun hwn eu cynnig,” meddai’r Aelod Llafur o’r Senedd.

“Mae’r polisi hwn yn fuddsoddiad yn ein hieuenctid, yn fuddsoddiad mewn dyfodol gwyrddach, ac yn gam tuag at sicrhau ein bod yn llai dibynnol ar geir.

“Mae arian yn dynn ar hyn o bryd, ond mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant tuag at sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bob person ifanc yng Nghymru.”

‘Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhad ac am ddim i bobol ifanc’

Cadi Dafydd

Ymchwil un o bwyllgorau Senedd Ieuenctid Cymru yn canfod fod pobol ifanc eisiau teithio’n fwy cynaliadwy, ond mai’r gost sy’n eu hatal