Mae Vaughan Gething a Jo Stevens yn y gogledd heddiw i lansio ymgyrch Llafur Cymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Daw hyn ar ôl i Rishi Sunak, Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig, alw etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.
Mae Vaughan Gething yng nghynhadledd y TUC yn Llandudno ar “ddiwrnod pan allwn ni deimlo diwedd ar 14 o flynyddoedd o’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y Deyrnas Unedig”.
“Terfyn ar 14 o flynyddoedd o ddirywiad, 14 o flynyddoedd o esgeulustod,” meddai.
“[David] Cameron, [Theresa] May, [Liz] Truss, [Rishi] Sunak.
“O’r diwedd, mae’n bryd troi’r tudalen ar y fandaliaid hynny.
“Rydyn ni’n gwybod fod yna ddyfodol arall y gallwn ni ei lunio.
“Rydyn ni’n gwybod y gwahaniaeth mae Llywodraeth Lafur yn ei wneud, ac rydyn ni’n gwybod y gall dwy Lywodraeth Lafur naill ben yr M4 a’r llall drawsnewid Cymru a thrawsnewid Prydain.”
‘Cynllun hirdymor difrifol’
Yr un yw neges Jo Stevens, wrth iddi lansio “ymgyrch i droi’r dudalen ar 14 o flynyddoedd o anhrefn a methiant Ceidwadol”.
“Mae gan Lafur gynllun hirdymor difrifol i newid ein gwlad,” meddai.
“Dim rhagor o gimics Torïaidd.
“Dim rhagor o blaster.
“Rydyn ni wedi amlinellu’r camau cyntaf y bydd dwy lywodraeth Laur yn gweithredu arnyn nhw.
“Gyda’n gilydd, gallwn ni atal yr anhrefn, troi’r dudalen ac ailadeiladu ein gwlad.
“Mae’r dewis yn eich dwylo chi.
“Dewiswch newid.”
‘Dim gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwell’
Ond yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, dydy Plaid Lafur Syr Keir Starmer ddim “yn cynnig unrhyw weledigaeth ar gyfer dyfodol gwell”.
“Mae safonau byw wedi syrthio i’r llawr o dan y Torïaid yn San Steffan,” meddai ar X (Twitter gynt).
“Ond nid yw Llafur Starmer yn cynnig unrhyw weledigaeth ar gyfer dyfodol gwell
“Pleidlais dros obaith yw pleidlais i Blaid Cymru. Dros degwch ac uchelgais.
“Dros Gymru.”