Roedd hi fel petai y rhai sy’n cynghori Rishi Sunak wedi penderfynu … reit, be ydi’r ffordd orau o sicrhau na fydd rhaid i ni fyth ddod yn ôl i’r twll yma yn Downing Street.
Doedd yna ddim arwydd gwell o’u diglemrwydd gwleidyddol nhw – ac yntau – na’r cyhoeddiad gwlyb brynhawn ddoe am ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.
Tybed a oedd staff Keir Starmer eisoes wedi treiddio i mewn i rif 10 ac wedi trefnu’r arddangosfa orau fedren nhw o ‘anhrefn’ y llywodraethau Ceidwadol?
Ond roedd yn ddechrau addas ar yr hyn allai fod yn un o’r ymgyrchoedd etholiad mwya’ diflas erioed – nid am fod dim yn digwydd ond am fod pawb yn torri eu calonnau.
Does neb yn siŵr pam fod Rishi druan wedi penderfynu mynd rŵan, ond dyma rai esboniadau posib:
- Mae ffigurau chwyddiant wedi gostwng a gwell manteisio ar hynny – erbyn yr hydref, mi fydd pawb yn sylweddoli bod pethau mor anodd ag erioed.
- Mae addewid awyrennau Rwanda yn fyw – erbyn yr hydref, mi fydd pawb yn sylweddoli nad ydyn nhw’n gwneud gwahaniaeth.
- Rhwng hyn a’r hydref, mae yna bosibilrwydd y bydd deg Ceidwadwr wedi gadael i ymuno â’r Monster Raving Loony Party a saith arall wedi cael eu cyhuddo o wahanol fisdimanars.
- Mae Musus Sunak wedi trefnu gwyliau neis yn ail wythnos mis Gorffennaf ac angen i Rishi fod ar gael.
Ac, erbyn hynny, mi fyddwn ni i gyd eisiau gwyliau! Mae’r ddwy blaid fawr eisoes wedi dweud popeth sydd ganddyn nhw i’w ddweud… ac ailadrodd hynny fyddan nhw am y chwech wythnos gron.
Mi fydd Rishi yn sefyll yn y glaw yn dweud ei bod hi’n heulog, ac mi fydd Keir yn ein perswadio bod modd cael newid a sefydlogrwydd yr un pryd, a hynny heb wario ceiniog.
Mi fydd Rishi yn trafod Cymru – fel esiampl o fethiant llywodraethau Llafur; mi fydd Keir yn ceisio’i anghofio hi ac yn diolch byth nad ydi’r ddraig ar Jac yr Undeb.
Mochel fydd Plaid Cymru ac aros i’r storm fynd heibio erbyn 2026; yn y cyfamser, mi fydd llawer o bobol Cymru’n ceisio dysgu ym mha etholaeth maen nhw erbyn hyn a phwy oedd eu Aelod Seneddol nhw’r tro diwetha’.
Mwynhewch!