Mae cyn-Brif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dweud bod tebygrwydd clir rhwng etholiadau cyffredinol 1997 a 2004.

Ron Davies oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl i Tony Blair gael ei ethol yn 1997, ac mae nifer yn ei ystyried yn bensaer datganoli yng Nghymru.

Wrth siarad â golwg360, dywed fod y tebygrwydd rhwng y ddau etholiad yn deillio o’r ffaith ei bod hi’n “eithaf amlwg fod pobol wedi penderfynu” pwy fyddan nhw’n pleidleisio drostyn nhw ar Orffennaf 4.

Ond er bod y “mood music yn debyg iawn o safbwynt y cyhoedd”, meddai, “mae’n rhaid cyfaddef nad yw [Keir] Starmer, efallai, yr un math o arweinydd â [Tony] Blair ar y pryd”.

Beth fyddai Keir Starmer yn ei etifeddu?

Ychwanega Ron Davies, oedd wedi ymuno â Phlaid Cymru ar ôl gadael Llafur ac ymgyrchu drostyn nhw yn etholiad cyffredinol 2010, nad yw’n disgwyl newidiadau ar yr un raddfa y tro hwn.

“Mae Starmer yn eithaf ymwybodol o’r ffaith ei fod yn ceisio peidio codi disgwyliadau, ac mae’n eithaf amlwg pam,” meddai.

“Os yw’n fuddugol, mi fydd e’n mabwysiadu cyllidebau wedi’u rhwygo ac economi sydd yn stryffaglu i dyfu.

“Yn sicr, mae’r sefyllfa o’r safbwynt yma lot gwaeth na phan enillodd Blair am y tro cyntaf yn 1997.”

Ymgyrchu

Yn nhyb Ron Davies, dydy’r Ceidwadwyr ddim am fwynhau’r ymgyrch hon, a hynny ar ôl mynd o “un trychineb i’r nesaf”.

“Does yna ddim llawer iddyn nhw edrych ymlaen ato, oherwydd mae pobol yn dueddol o fod eisiau eu beio nhw am y sefyllfa mae’r wlad ynddi heddiw,” meddai.

I’r Blaid Lafur, meddai, “does dim neges sy’n fwy pwerus na’i bod hi’n bryd cael newid”.

“Mae hyn yn enwedig o wir pan fo’r farn honno’n dod gan y person tu fewn i’r tai, yn hytrach na’r canfasiwr.”

Dywed fod hyn yn rhannol oherwydd bod pobol “wedi cael digon” o’r Ceidwadwyr ers i’r gwir am Partygate ddod i’r amlwg.

“Mae’r cyhoedd wedi troi yn erbyn y Ceidwadwyr mewn ffordd fawr ers hynny, ac mae popeth sydd wedi dilyn wedi cadarnhau’r meddylfryd yna, yn fy marn i,” meddai.

Rishi Sunak

Etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4

Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi gofyn i’r Brenin Charles ddiddymu’r senedd yn San Steffan
Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Hip hip hwrê! Etholiad!

Dylan Iorwerth

Does neb yn siŵr pam fod Rishi druan wedi penderfynu mynd rŵan, ond dyma rai esboniadau posib