Mae’r Senedd wedi gwrthod galwadau’r Ceidwadwyr Cymreig i gefnu ar y cynlluniau ar gyfer treth dwristiaeth.
Arweiniodd Laura Anne Jones ddadl ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar gyfer ymwelwyr – ffi bach ar gyfer ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety i dwristiaid – o 2027.
Rhybuddiodd yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd y gallai’r dreth wneud i bobol feddwl dwywaith am ddod ar eu gwyliau i Gymru, fyddai’n cael effaith sylweddol ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch.
Cododd hi bryderon hefyd am godi’r trothwy i wneud eiddo hunanarlwyo’n gymwys ar gyfer cyfraddau busnes, o 70 diwrnod i 182.
Wrth alw am ostyngiad i 105 o ddiwrnodau, rhybuddiodd y bu’n anodd i nifer o fusnesau hunanarlwyo fwrw’r targed, gan adael perchnogion mewn perygl o bremiwm treth gyngor o 300%.
‘Ergyd economaidd’
Fe fu Laura Anne Jones yn dadlau y dylid gwneud Croeso Cymru’n annibynnol o Lywodraeth Cymru.
“Dydy system bresennol Croeso Cymru ddim yn gweithio, ac mae’n ei chael hi’n anodd denu pobol i Gymru,” meddai’r llefarydd diwylliant.
Dywedodd cynrychiolydd Dwyrain De Cymru wrth y Siambr fod arolwg o dwristiaeth gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror yn dangos gostyngiad mewn niferoedd ymwelwyr ers 2022.
Wrth godi pryderon am ergyd sylweddol i economi Cymru, dywedodd fod gwariant ymwelwyr o dramor yn £515m yn 2019, ond roedd wedi gostwng i £391m yn 2022.
Mae hi wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “ymosod” ar y sector twristiaeth, gan ddweud nad oes gan weinidogion ddim byd i’w gynnig ond geiriau gwag a pholisïau sydd heb eu cynllunio’n dda.
‘Trefi anghyfannedd’
Pwysleisiodd Luke Fletcher, ar ran Plaid Cymru, bwysigrwydd cynaladwyedd, gan godi pryderon fod cymunedau’n dod yn drefi anghyfannedd y tu allan i’r tymor gwyliau.
Fe wnaeth llefarydd yr economi’r blaid gefnogi cynlluniau ar gyfer treth dwristiaeth gan y byddai’n codi’r arian ychwanegol sydd ei angen er mwyn cynnal a chadw atyniadau, strydoedd a gwasanaethau.
Dadleuodd na fyddai ardoll bach yn troi ymwelwyr i ffwrdd, gan dynnu ar enghraifft Barcelona, ac fe alwodd ar i unrhyw arian sy’n cael ei godi gael ei neilltuo ar gyfer twristiaeth.
Awgrymodd y bydd ardoll ar gyfer twristiaeth yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gyda Manceinion eisoes wedi cyflwyno tâl o £1 y noson, oedd wedi codi tua £2.8m yn ystod y flwyddyn gyntaf o Ebrill 2023.
Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru annog Llywodraeth Cymru i adfer rhyddhad cyfraddau ar gyfer busnesau twristiaeth, o 40% i 75%, er mwyn lleddfu’r pwysau ar y sector.
‘Tir gwastad’
Dywedodd Peter Fox fod busnesau twristiaeth yn ei etholaeth ym Mynwy, sydd ychydig filltiroedd oddi wrth gystadleuwyr yn Lloegr, eisiau tir gwastad dros y ffin.
“Mae busnesau’n wynebu’r dreth dwristiaeth sydd ar ddod, costau gwastraff ychwanegol, cyfraddau busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, a llai o gefnogaeth ar gyfer cyfraddau annomestig,” meddai wrth roi ei rybudd.
“Mae’r cyfan oll yn achosi pryder gwirioneddol i gynifer o fusnesau sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd iawn ar hyn o bryd.”
Dywedodd Peter Fox, fu’n arwain Cyngor Sir Fynwy am fwy na degawd, y bydd awdurdodau lleol yn defnyddio refeniw o’r dreth dwristiaeth i leddfu pwysau eraill megis gofal cymdeithasol ac iechyd.
“Dyna fydd yn digwydd, yn sicr,” meddai wrth y Senedd.
‘Gwarthus’
Fe wnaeth Janet Finch-Saunders gyhuddo Llafur a Phlaid Cymru o “fygu” twristiaeth yng Nghymru â rheolau a rheoliadau, sy’n cael effaith andwyol ar y diwydiant, meddai.
Disgrifiodd yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy y cylluniau ar gyfer treth dwristiaeth fel syniad “ofnadwy” gafodd ei lunio yn y Cytundeb Cydweithio “gwarthus” rhwng y ddwy blaid wleidyddol.
Rhybuddiodd Sam Rowlands, cyd-aelod Torïaidd, y bydd treth dwristiaeth yn gwneud Cymru’n llai cystadleuol o fewn y Deyrnas Unedig, ac yn anfon neges na fydd croeso iddi ymhlith darpar ymwelwyr.
Ond dywedodd Cefin Campbell o Blaid Cymru bod ardollau ar gyfer twristiaid yn gyffredin o amgylch y byd, gan gyfeirio at enghreifftiau Croatia, Groeg, yr Iseldiroedd, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a’r Caribî.
“Dydyn nhw ddim wedi llesteirio twristiaeth yn yr un o’r gwledydd hyn,” meddai’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
“Yn hytrach, maen nhw wedi ymbweru cyrchfannau i gynnig gwell profiad i ymwelwyr.”
‘Cyfraniad bach iawn’
Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd Jeremy Miles mai’r ffordd orau o warchod y sector yw gofyn i ymwelwyr wneud cyfraniad bach iawn i gostau twristiaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru fod y meini prawf ar gyfer rhoi eiddo hunanarlwyo ar osod wedi cael eu newid er mwyn sicrhau bod perchnogion yn gwneud cyfraniad teg ac yn gwneud y defnydd mwyaf o’u heiddo.
Fe wnaeth Jeremy Miles, ddechreuodd yn ei swydd ym mis Mawrth, dynnu sylw at strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth, wrth amlinellu ei weledigaeth ar gyfer sector twristiaeth sy’n gynaliadwy.
“Dw i’n feirniadol o’r ffordd rydyn ni wedi clywed rhai siaradwyr… yn cymharu Cymru’n anffafriol â chyrchfannau twristiaeth eraill,” meddai, wrth gyhuddo’r Ceidwadwyr o ladd ar Gymru.
Fe wnaeth Aelodau’r Senedd bleidleisio o 13-33 yn erbyn cynnig Torïaidd, gyda gwelliannau Plaid Cymru hefyd wedi cael eu trechu.
Cafodd y cynnig, ar ôl gwelliannau Llywodraeth Cymru, ei dderbyn o 24 i 22.